Skip to content ↓

Sara Yn Nhîm Dadlau Cymru

Disgybl Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn cynrychioli Cymru mewn Cystadleuaeth Ddadlau.

 

Dewiswyd Sara Jones, o Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Dadlau i Ysgolion y Byd. Sara yw un o bump aelod o hyd a lled Cymru.

Cafodd Sara, blwyddyn 13, ei dewis o gannoedd o ymgeiswyr o Gymru i gynrychioli ei gwlad fel rhan o dîm Cymru ym Mhencampwriaeth Dadlau i Ysgolion y Byd. Bydd hi’n cystadlu gyda'r tîm mewn cystadlaethau rhyngwladol a byd-eang. Ar hyn o bryd, maent yn paratoi ar gyfer twrnament byd-eang. Dylai’r twrnament fod wedi ei chynnal yn Macau, ond oherwydd cyfyngiadau teithio Covid-19, cynhelir y gystadleuaeth ar Zoom yn hwyrach eleni. Dros y gwyliau Pasg, cystadlodd Sara a’r tîm mewn cystadleuaeth ddadlau Prague, gan wneud yn dda. Dyma ail flwyddyn Sara fel rhan o’r tîm, gan ddilyn yn ôl troed ei brawd, Huw Jones, a oedd yn rhan o’r tîm am dair mlynedd hyd at llynedd.

Astudia Sara Y Gymraeg, Llenyddiaeth Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg yn chweched dosbarth Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Bu’n aelod ffyddlon o dimau dadlau a siarad cyhoeddus yr ysgol ers blwyddyn 7. Llynedd, cyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Brydeinig yr ‘ESU (English Speaking Union)’ a chyrraedd y rowndiau cyn-derfynol gyda’i thîm Siarad Cyhoeddus. Hefyd, mae Sara’n cystadlu trwy gyfrwng y Gymraeg gyda’i thîm yn dod yn ail yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus y Rotari De Cymru yn 2020.

O’r profiad o gael cystadlu gyda thîm Cymru, dywedodd Sara, ‘Mae’n brofiad anhygoel. Mae dadlau yn gwneud i chi feddwl yn gyflym ac mewn modd ddadansoddol. Rwy’n mwynhau’r cynnwrf a’r cyffro a ddaw wrth gystadlu. Mewn rhai rowndiau, nid ydych yn gallu paratoi o flaen llaw na chreu unrhyw nodiadau. Felly, rhaid ymateb i sylwadau eraill a chreu araith gyda’r wybodaeth hynny! N ogystal, mae’r gymuned ddadlau yn rhyngwladol ac felly mae gen i ffrindiau o bedwar ban y byd. Mae dadlau’n bendant yn ehangu eich gorwelion.’

Dywedodd Mr Angell Jones, y Pennaeth, ‘Rydym oll mor falch o Sara a’i llwyddiannau yma yn yr ysgol. Mae hi wedi datblygu ei sgiliau dadlau gan ennyn llawer o brofiadau amhrisiadwy yma yn yr ysgol wrth gystadlu gyda ni a chynrychioli Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Bu’n aelod ffyddlon o’r clybiau dadlau a siarad cyhoeddus all-gwricwlaidd ers blwyddyn 7. Erbyn hyn, mae’n arbennig i’w gweld yn cynrychioli ei gwlad. Yn bendant, mae gan Sara ddyfodol disglair o’i blaen!’

Dymunir yn dda i Sara wrth iddi gystadlu ym Mhencampwriaeth Dadlau i Ysgolion y Byd ym mis Gorffennaf. Bydd tîm Cymru yn cystadlu yn erbyn dros 70 o wledydd eraill.

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Sara a thîm Cymru!