Skip to content ↓

Croeso mawr i dudalen dosbarth Mesen!

Miss Dyer yw ein hathrawes ni eleni gyda help Miss Lloyd. Mae Miss Szura efo ni bob dydd Mercher, Iau a Gwener. Daw Mrs Atkins i'n dysgu ni ar ddydd Llun. Mae 26 o blant yn ein dosbarth bore ac 19 yn ein dosbarth prynhawn.  Rydym wrth ein boddau yn dysgu, chwarae, archwilio a darganfod.  Thema'r tymor yma yw'r "Haf."

Gwybodaeth Cyffredinol:

  • Ymarfer Corff: Mae ein sesiwn ymarfer corff ar ddydd Iau.  Mi fydd angen i'r plant ddod i'r ysgol yn eu gwisg ymarfer corff (crys-T llys, siorts tywyll neu drowsus ymarfer corff ac esgidiau ymarfer corff)
  • Llaeth a Ffrwyth: Rydym yn mwynhau amser llaeth a ffrwyth gyda'n ffrindiau.  Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 yr wythnos (pob taliad i'w wneud trwy Parentpay os gwelwch yn dda)

 

Dilynwch ni ar X i weld mwy o hwyl a sbri'r dosbarth @MissDyer171176