Skip to content ↓

Mrs Beechey yw ein hathrawes eleni yn nosbarth Clychau’r Gog ac mae Miss Turner a Miss Burne hefyd yn ein helpu. Fe fydd Mrs Weighell yn arwain ein sesiynau CPA unwaith bob pythefnos. Mae 29 o ddysgwyr hapus a chwilfrydig yn y dosbarth sydd yn hoff iawn o astudio themâu newydd.

Rydym wrth ein boddau yn darllen, ymarfer ein sgiliau ysgrifennu, cwblhau gwaith rhifedd, darganfod sgiliau digidol newydd yn ogystal â chynnal ymholiadau gwyddonol cyffrous yn y dosbarth. Ein thema ar gyfer Tymor y Gwanwyn yw 'Arwyr yr Oesoedd'.

Pwysig:

  • Bydd ein gwersi ymarfer corff yn digwydd ar ddyddiau Mercher a Iau. Fe fydd angen bag yn cynnwys cit ymarfer corff, a phopeth wedi labelu. Crys lliw'r llys, siorts neu leggings du a 'trainers'. Fe fydd y bag yn aros yr ysgol am hanner tymor.
  • Byddwn yn darllen yn unigol yn wythnosol ac yn derbyn llyfr newydd os byddwn yn hydrus ac yn barod.  Fe fydd nodiadau am hyn yn y Cofnod Ddarllen er mwyn cysylltu darllen y cartref gyda darllen yn yr ysgol.
  • Darparir llyfrau darllen mewn bag darllen swyddogol yr ysgol YN UNIG. Gellir prynu bag darllen o siop Ruckleys.     Disgwylir i’r bag glas ddod i mewn i'r ysgol yn ddyddiol.
  • Bydd tasgau sillafu a rhifedd yn cael eu gosod ar Google Classroom ar ddyddiau Gwener.
  • Bydd tudalen Dewis Difyr yn cael ei osod ar Google Classroom ar ddechrau pob hanner tymor er mwyn i ni allu parhau â’n dysgu adref. Fe fydd y Dewis Difyr cyntaf yn cael ei ddarparu yn dilyn Hanner Tymor yr Hydref (10ed o Dachwedd).

 

 

Diolch yn fawr iawn,

Mrs B Beechey 

 

Cofiwch ein dilyn ar Drydar - @MrsBBeechey