Skip to content ↓
Cyngor Ysgol

Credwn fod llais y disgybl yn hanfodol er mwyn datblygu a gwella amodau yn yr ysgol. Pob blwyddyn, ar ddechrau tymor yr Hydref, mae etholiadau democrataidd yn cael eu cynnal ym mlwyddyn 2 – 6. Mae’r darpar ymgeiswyr yn paratoi araith fer ac yna fe gynhelir pleidlais ddirgel. Cynhelir cyfarfodydd Cyngor Ysgol yn fisol ac mae’r cynghorwyr yn mynychu cyfarfodydd Cabinet yn yr Uwchradd yn gyson. Mae cynrychiolaeth o’r Cyngor Ysgol yn adrodd yn flynyddol i Lywodraethwyr yr ysgol.

Eco Ysgol

Mae gennym Bwyllgor ECO gyda chynrychiolaeth o Flwyddyn 2 i 6. Mae gan  bob plentyn yn yr ysgol       ymwybyddiaeth o faterion eco a rydym yn cydweithio gyda’n gilydd i ofalu am ein hamgylchfyd.