Skip to content ↓

Mae pob disgybl yn derbyn dyddiadur ar ddechrau’r flwyddyn.  Mae’n cynnwys tudalennau i nodi’r amserlen, tasgau gwaith cartref a dyddiadau cyflwyno’r gwaith, slipiau absenoldeb, lefelau cyrhaeddiad a thudalennau i nodi eu llwyddiannau a’u pwyntiau clod.

Yn y dyddiadur bydd cyfle i’r athrawon dynnu eich sylw chi at agweddau megis gwaith cartref, ymddygiad a llwyddiannau eich plentyn. Mae cyfle hefyd i chi ysgrifennu nodyn yn tynnu sylw yr athro pwnc at faterion yn ymwneud â gwaith cartref/gwaith dosbarth neu ymateb i nodiadau a gawsoch gan yr athro.

Fe fydd y tiwtor personol yn arolygu ac yn llofnodi’r dyddiadur yn wythnosol a gofynnir i chi ei lofnodi bob wythnos.