Skip to content ↓

Beth yw ystyr yr asesiadau?


 Bydd canlyniadau’r asesiadau yn rhoi darlun annibynnol i chi o gynnydd eich plentyn yn erbyn safonau’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Dylai’r tabl canlynol o ganlyniadau disgyblion blwyddyn 9 yng Nghymru wedi ei safoni eich helpu i fesur sut mae ef neu hi yn dod ymlaen o’i gymharu â phlant eraill o’r un oedran, o fewn yr ysgol ac yn genedlaethol. Serch hynny, yr hyn sy’n bwysig yw bod eich plentyn yn gweithio hyd eithaf ei allu, a byddwn yn gwneud ein gorau i weithio gyda chi er mwyn sicrhau hyn.

Gwneud y gorau o dalentau eich plentyn yw’r nod ac fe all lefel cyrhaeddiad eich plentyn amrywio o bwnc i bwnc.  Nid yw pob disgybl yr un fath.