Skip to content ↓

Rydym yn ymdrechu i ddarparu cwricwlwm sydd yn addas i anghenion a   thalentau pob plentyn. Mae ein addysgu a’n dysgu yn cael eu cynllunio yn y fath fodd fel bod pob plentyn yn cyflawni hyd eithaf ei allu.  Mae’n bwysig ein bod yn deall yr hyn sydd mewn golwg wrth gyfeirio at blant mwy abl a       thalentog. Mae’r term “plentyn abl” yn golygu plentyn sydd yn dangos gallu eithriadol mewn un neu fwy o elfennau academaidd y cwricwlwm ysgol. Mae’r term “talentog” yn cyfeirio at blentyn sydd yn dangos gallu eithriadol wrth gwblhau tasgau ymarferol neu wrth berfformio. Rydym yn herio ac yn ymestyn pob plentyn yn ôl ei allu unigol.