Skip to content ↓

Yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg rydym yn ystyried fod pob disgybl cyfwerth â’i gilydd waeth beth fo’i allu, ei ddawn, ei ddiddordeb na’i ymddygiad. Mae hawl gan bob plentyn i gael cwricwlwm wedi ei wahaniaethu.

Yn achlysurol fe welir fod gan rai plant drafferthion yn ystod rhyw gyfnod o’i f/bywyd yn yr ysgol ac fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol (ADY.) Mae gwaith pob plentyn yn cael ei asesu a’i fonitro yn gyson ac os welir fod gan blentyn ADY, fe fydd strategaethau penodol yn cael eu rhoi yn eu lle i gefnogi’r plentyn.

Gofynnir am fewnbwn a chydweithrediad Seicolegydd Addysgol ac asiantaethau eraill yn ôl y galw. Bydd yr ysgol yn ymgynghori gyda rhieni bob cam o’r ffordd ac yn eu hannog i gydweithio gyda’r ysgol er mwyn sicrhau y canlyniad gorau posibl i’r plentyn.