Skip to content ↓
Glesni, Ethan, Alys a Ioan

Helo fy enw i ydy Alys Evans a fi yw Prif Ferch Ysgol Gymraeg Bro Morgnnwg eleni. Dwi’n astudio Llenyddiaeth Saesneg, Ffrangeg a Daearyddiaeth a hoffwn barhau cwrs yn Y Gyfraith yn y brifysgol. Dwi’n ddiolchgar iawn i gael y cyfle i fod yn Brif Ferch gan fod yr ysgol wedi rhoi gymaint o gyfleon i mi yn ogystal â sicrhau disgyblaeth, Cymreictod a chwrteisi ynof. Hoffwn felly eleni i gryfhau ein cymdeithas Gymraeg ac atgyfnerthu’r teimlad o gyfforddusrwydd a diogelwch yn enwedig yn ystod yr amser ansicr yma.

 

Helo, Ethan Wall ydw i, es i i Ysgol Sant Curig a fi yw prif fachgen eleni yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Rydw i'n astudio Llenyddiaeth Saesneg , Dylunio a Thechnoleg ac Astudiaethau Drama a Theatr. Hoffwn i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn y dyfydol yn y brifysgol.

 

Fy enw i yw Glesni Siôn ac rydw i’n ddirprwy brif-ferch yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Yr wyf yn astudio Cemeg, Bioleg, Hanes a’r BAC yn y chweched ddosbarth a bwriadaf astudio Meddygaeth yn y brifysgol. Yn ystod y cyfnod anodd yma, ble mae cyfyngiadau ar gwrdd fel ysgol a blynyddoedd, hoffwn allu uno’r ysgol a sicrhau fod pob disgybl yn teimlo eu bod yn rhan o gymuned yr ysgol. Mae cael y cyfle yma i fod yn brif swyddog yn fraint ac yn rhoi cyfle i mi roi rhywbeth yn ôl i’r ysgol ar ôl i mi gael profiad hapus a llwyddiannus yma.

 

Helo fy enw i yw Ioan, rwy’n astudio Mathemateg, Ffiseg, Daearyddiaeth a’r Bac yn Lefel A eleni. Fy mwriad fel un o’r prif swyddogion yw i wneud yn siwr fod pob disgybl yn yr ysgol yn hapus ac yn ymwneud yn dda gyda phob agwedd o’r ysgol; gwaith, athrawon, ffrindiau a phenderfyniadau i’’r dyfodol. Gobeithio y byddech chi’n teimlo’n ddigon hapus i fy holi i neu gweddill y swyddogion am unrhyw gwestiynau neu bryderon, ac felly gobeithio y byddwn ni’n gwella eich profiad ysgol. Rwy’n falch iawn i fod yn brif swyddog, gobeithio y byddaf yn cyflawni’r rôl yn effeithiol.