Skip to content ↓

Gyda pwy y dylwn gysylltu am opsiynau Blwyddyn 9?

Cysylltwch gyda Mr Huw Williams drwy'r cyfeiriad e-bost opsiynauBl9@ygbm.co.uk.

Erbyn pryd sydd angen dewis pynciau?

Mae angen dewis eich 5 opsiwn erbyn y 21ain o Ionawr drwy lenwi ffurflen sydd ar Teams Blwyddyn 9

Pam bod angen dewis 5 pwnc os ydy fy mhlentyn am astudio 3?

Mae'r ysgol yn awyddus i ffurfio colofnau sydd yn plesio cymaint o ddisgyblion a phosib.  Ar adegau nid yw'n bosib i ddisgybl gael ei tri dewis cyntaf ac mae angen iddyn fod yn hapus hefo'i 4ydd a 5ed opsiwn fel y gellir eu cyfnewid.

Beth os mae fy mhlentyn yn newid ei f/meddwl am bwnc?

Mae pob tro cyfle i drafod sgwrsio a sicrhau bod eich plentyn ar y cwrs cywir.  Fel mae'r amser yn pasio gall y dewisiadau fod fwy cyfyngiedig am resymau gwahanol megis gosodiad y colofnau neu bod y pwn cyn llawn.

Pam nad oes gwybodaeth am y cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus?

Wedi rhai newidiadau i'r cynnwys, rydym fel ysgol yn teimlo nad yw'r cwrs yma bellach yn briodol i'n disgyblion. Rydym wedi cyflwyno cwrs newydd, 'Dysgu yn yr Awyr Agored' fel opsiwn amgenach

Beth yw'r cyrsiau craidd bod rhaid i fy mhlentyn gymryd?

Mathemateg, Cymraeg, Saesneg, Gwyddoniaeth a'r Tystysgrif Her Sgiliau.

Os oes gyda chi gwestiwn pellach, mae croeso i chi lenwi y ffurflen isod:

Ffurflen Gwestiynau

Ysgrifennwch eich cwestiwn isod/ Write your question below:

Eich enw ac ebost/ Your name and email address

Enw eich plentyn/ Name of your child