Skip to content ↓

Gwasanaeth Cynghori mewn Ysgolion ac yn y Gymuned ym Mro Morgannwg gan Barnardo's


Weithiau rydym ni i gyd yn cael problemau sy’n gwneud i ni boeni. Meddyliwch am jig-so dryslyd pan fydd yn anodd cael yr holl ddarnau i ffitio gyda'i gilydd. Mae siarad am broblem wrth gael eich cynghori fel rhoi trefn ar yr holl ddarnau fel ein bod ni'n gallu creu darlun sy'n gwneud synnwyr i ni.

Weithiau mae’n anodd siarad â rhieni, ffrinidau neu athrawon am bethau sy’n gwneud i ni boeni. Mae cynghorydd yn rhywun sy’n gallu siarad â chi mewn ffordd wahanol, rhywun a fydd yn gwrando arnoch chi’n ofalus iawn, rhywun na fydd yn eich beirniadu chi neu’n dweud wrthych chi beth i’w wneud.

Mae cynghori’n golygu’ch helpu chi i weithio pethau allan drostoch chi’ch hun, i wneud penderfyniadau a dewisiadau a'ch helpu chi i edrych ar bethau’n wahanol. Gall eich helpu chi i deimlo'n well amdanoch chi'ch hun.

Os hoffech siarad â chynghorydd llenwch y ffurflen ymholiad yma (Saesneg yn unig) bydd angen i chi arbed y ffurflen i'ch cyfrifiadur a'i hanfon mewn e-bost i:

valecounsellingservice@barnardos.org.uk

Dim ond y cynghorydd fydd yn gweld y ffurflen hon. 

Gallwch hefyd siarad ag aelod o’r staff rydych chi’n ymddyried ynddo neu ynddi. Efallai mai dyma fydd eich athro dosbarth neu'r Pennaeth Bugeiliol yn yr Ysgol. Bydd hwn neu hon yn eich cyfeirio at gynghorydd.