Skip to content ↓
CA4 (Blwyddyn 10-11)

Arweinydd Pwnc - Dr Helen Baker

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Nod

Mae’r cymwysterau yn bodloni gwahanol themâu Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith: cyrhaeddiad personol; chwilio am wybodaeth; deall y byd gwaith; arweiniad; a gwneud penderfyniadau a’u rhoi ar waith. Mae’r cymwysterau yn galluogi dysgwyr i fod yn barod am waith ac i gyfrannu’n sylweddol yn y gweithle, un ai mewn rôl wirfoddol neu rôl â thal.

Mae’r cymwysterau yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

• gwireddu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol drwy gynllunio ac archwilio llwybrau gyrfa a chyflogaeth posibl

• deall y sgiliau, y gwerthoedd a’r agweddau sydd eu hangen yn y gweithle

• deall sut mae’r hyn maent yn ei ddysgu yn berthnasol i’w dyfodol.

 

Rydym yn cefnogi ac yn grymuso pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd drwy’r cymwysterau. Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn barod ar gyfer gofynion y gweithle a bod gan gyflogwyr weithwyr sy’n bodloni eu safonau a’u disgwyliadau

 

Manylion y Cwrs

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Addysg sy’n Gysylltiedig â Gwaith

Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC: C00/1199/8

Credydau ei hangen: Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu ar lefel uwch: 7

Credydau ei hangen ar Lefel Dau: 6

 

Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei ystyried yn addas i ddysgwyr o dan 16 oed.

 

Asesu

Lefel 1 -               Uned 1- Sgiliau Cyfweliad

                 Uned 2- Gwneud Cais am Swydd

      Uned 3- Llunio Curriciwlwm Vitae Pwrpasol

Lefel 2 -              Uned 1- Cynllunio a Pharatoi ar gyfer Profiad Gwaith

                  Uned 2- Gweithio mewn Tim.