Skip to content ↓
Calon ein hysgol yw Adran y Gymraeg a dyma ble profir bod y Gymraeg yn gymaint mwy na phwnc yn unig.  Wrth astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg daw'r disgyblion i wybod mwy am ddiwylliant lleol a chendlaethol.  Mae gwahoddiad i bawb brofi balchder yn eu hunaniaeth a’u hetifeddiaeth.
Adran:

Mr H Hughes - Pennaeth Adran

Mrs H Lewis 

Mrs S James 

Miss B Jones 

Mr G Jones

Mrs B Morgan 

Miss A Rogers

Ms D Roberts

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Trydar: @CymraegYGBM
Gweithgareddau Ychwanegol:
  • Clwb Triban - cylchgrawn ar gyfer blwyddyn 7
  • Cystadlaethau llenyddol
  • Blwyddyn 11 i ymweld a lleoliadau ar y cwrs TGAU

“Yr hyn sy’n wych am astudio Cymraeg yw’r amrywiaeth – un wers ti’n trafod beirdd y chweched ganrif a’r wers nesaf ti’n trafod ffilm! Mae cymaint o gyfleoedd gwahanol wrth astudio, a chyfle i ysgrifennu’n greadigol am bynciau sy’n bwysig i ni heddiw. Trwy ddarllen y llenyddiaeth mae cyfle yma i ddysgu mwy am hanes ein gwlad ein hunain a hynny mewn ffordd newydd a diddorol. Ond, un o’r pethau pwysicaf i fi, yw pa mor gartrefol yw’r teimlad yn y gwersi. Mae’r athrawon yn dy ‘nabod di ac yn dy groesawu di i bob gwers.”

CA3 (Blwyddyn 7-9)

Bl

Tymor

Themau

7

Hydref

Fy Mro

Arswyd y Byd

 

Gwanwyn

Gorau Chwarae Cyd-Chwarae

 

Haf

Chwedlau

 

 

Fy Myd

8

Hydref

Trafeiliais y byd

 

Gwanwyn

Technoleg a Chyfathrebu

 

Haf

Arwyr

9

Hydref

Rhyfel a Thrais

 

Gwanwyn

Cymru Fach

 

Haf

Sgiliau TGAU

CA4 (Blwyddyn 10-11)

Amcanion Cyffredinol

Nod y cwrs yw sicrhau bod y disgyblion yn cael y cyfle i gyfathrebu’n hyderus, yn gywir ac yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth astudio TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf. Disgwylir iddynt gyfrannu i drafodaethau ac ymateb i ystod lawn o ddeunydd darllen – yn farddoniaeth, rhyddiaith a drama. Bydd cyfle i ysgrifennu mewn ystod eang o ffurfiau gan roi sylw i bwrpas, cynulleidfa a chywirdeb.

 

Manylion y Cwrs

Rhennir y cwrs yn dair rhan:

Llafaredd – cymryd rhan mewn gweithgareddau llafar unigol ac mewn grŵp i gyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.

Darllen – deall amrywiaeth o ddeunyddiau darllen drwy ateb ystod o gwestiynau strwythuredig.

Ysgrifennu – ysgrifennu’n y Gymraeg yn effeithiol ac yn gywir. Cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn gan ddefnyddio ystod lawn o adnoddau ieithyddol.

 

Dulliau Asesu

Uned 1 Gwaith Llafar – 30%

Dwy dasg:

Trafod a Mynegi Barn (ymateb a rhyngweithio mewn grŵp)

Cyflwyno Gwybodaeth (cyflwyniad unigol ar sail ymchwil)

 

Uned 2 Arholiad Darllen ac Ysgrifennu (2 awr) – 35%

Adran A: Darllen – darnau disgrifio, naratif ac esbonio

Adran B: Ysgrifennu – naill ai tasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio a thasg prawf ddarllen.

 

Uned 3 Arholiad Darllen ac Ysgrifennu (2 awr) – 35%

Adran A: Darllen – darnau trafod, cyfarwyddiadol a pherswâd

Adran B: Ysgrifennu - Tasg berswadiol a thasg sy’n trafod pwnc.

 

 

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Arweinydd Pwnc: Mr Huw V. Hughes
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 55%
Gwaith cwrs: 45%

Anghenion Mynediad:

Disgwylir i chi fod wedi ennill graddau B o leiaf, yn y papurau Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg Haen Uwch TGAU, er mwyn astudio’r cwrs. Rhown ystyriaeth arbennig i ddisgyblion â graddau C os ydynt yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i gwblhau’r cwrs.

Beth yw Cymraeg?

Mae’r pwnc yn cynnig cyfle i chi ddysgu mwy am ddiwylliant, treftadaeth a llenyddiaeth Cymru. Rhydd y cwrs hwn lawer o gyfleoedd i chi drafod nofelau cyfoes, gwylio ffilmiau cyfredol ac ysgrifennu’n greadigol. Cewch hefyd gyfle i astudio hanes yr iaith yn ddyfnach drwy ddadansoddi chwedlau a cherddi mewn hen Gymraeg.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Cymraeg?

Wrth astudio’r Gymraeg byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymreig a thraddodiadau ein gwlad. Bydd llawer o waith trafod a dadansoddi yn y gwersi yn ogystal â thasgau ysgrifenedig. Dibynnir yn fawr ar eich gallu i ymchwilio yn annibynnol a’ch diddordeb i ddarllen o amgylch y pwnc i gyfoethogi’ch gwybodaeth. Mae’r arholiadau llafar yn gyfle i chi ddangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth lawn o ffilmiau, dramâu a nofelau Cymraeg. Cewch barhau i ddangos eich creadigrwydd a’ch sgiliau ysgrifennu ffeithiol trwy’r gwaith cwrs. Byddwch yn dysgu pa ddefnydd a wneir o’r Gymraeg yn y byd gwaith, y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Byddwch yn darllen a dadansoddi testunau Cymraeg sy’n amrywio o waith beirdd y 6ed ganrif hyd at feirdd heddiw, o ryddiaith y canol oesoedd i nofelau cyfoes. Yn ogystal, trefnir ymweliadau gan feirdd Cymru a sawl cwrs ar y cyd ag ysgolion eraill ble ceir cyfle i gyfathrebu â myfyrwyr eraill sy’n astudio’r cwrs. Bydd ymweliadau i’r theatr a’r sinema. Trefnir teithiau ar eich cyfer, i ehangu eich profiadau, i lefydd o bwys neu deithiau adolygu.

Cynnwys y cwrs:

Uned 1 – Trafod ffilm a drama

Uned 2 – Gwaith Cwrs

Uned 3 – Defnyddio’r Iaith a Barddoniaeth

Uned 4 – Trafod nofel

Uned 5 – Chwedlau, Hengerdd a’r Cywyddau

Uned 6 – Defnyddio’r Iaith a Gwerthfawrogi Llenyddiaeth

Gyrfaoedd posib:

O astudio’r Gymraeg fel pwnc mae posibiliadau gyrfaol diben draw. Pe dymunech ddilyn gyrfa yn y gyfraith, mewn llywodraeth leol neu gendlaethol, newyddiaduraeth neu’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus neu addysg dyma’r pwnc i chi. Mae’n cynnig llu o gyfleoedd i unrhyw un sydd am swydd ble mae angen sgiliau cyfathrebu huawdl a graenus.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

 https://www.wjec.co.uk/qualifications/welsh-first-language/welsh-first-language-gce-a-as/