Skip to content ↓
Mae Gwyddoniaeth yn ein galluogi i ddeall y byd o’n hamgylch.  Bydd disgyblion yn dysgu am gelloedd, elfennau a chyfansoddion, asidau, cylchedau trydan a gweld enghraifft o ddarganfyddiad lleol: Deinosor Sili.  Bydd Blwyddyn 7 hyd yn oed yn cael y cyfle i ystyried sut gallent oroesi ar ynys bellennig wrth iddynt gymhwyso eu gwybodaeth i ddatrys problemau.
Adran:

Miss C Walters - Pennaeth Gwyddoniaeth a Cemeg

Mr D Davies - Pennaeth Ffiseg

Mrs L Downey 

Miss L Elena 

Mr J Evans 

Mrs A Jones 

Mr O Jones 

Miss C Ormerod - Pennaeth Bioleg

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Trydar: @gwyddygbm
Gweithgareddau Ychwanegol:
  • Clwb Gwyddoniaeth
  • Clwb STEM
  • Gweithdy DNA 
  • Gwyddoniaeth mewn Iechyd (live)
  • Her Gwyddorau Bywyd
  • Her tîm Peiriannwyr
  • Top of the Bench Royal Society of Chemistry
  • Her Faraday 

“Er ei fod yn anodd, Ffiseg yw un o’r pynciau sydd byth yn mynd yn ddiflas. Mae’r gwaith a’r gwersi yn ddiddorol, gydag amrywiaeth o destunau ac arbrofion sy’n agor eich llygaid i sut mae’r byd yn gweithio!”

“Rwy’n hoff iawn o’r wersi, mae yna gydbwysedd dda rhwng gwersi theori ac arbrofion ddosbarth.”

“Mae ystod eang o unedau sydd yn rhoi sylfaen dda i waith prifysgol.”

CA4 (Blwyddyn 10-11)

Bydd yr Adran yn gosod y disgyblion mewn i setiau yn ôl perfformiad a gallu. Cynigir tri chwrs TGAU, gyda phob set yn dilyn y cwrs mwyaf addas iddynt.

 

Cwrs Gwyddoniaeth

Nifer y TGAU a enillir ar ddiwedd y cwrs

Gwyddorau ar wahân (Bioleg, Cemeg a Ffiseg)

3

Gwyddoniaeth (Dwyradd) TGAU

2

Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gradd Unigol)

1

 

Er mwyn cael astudio un o’r gwyddorau at Safon Uwch, bydd angen i ddisgyblion gael gradd ‘B’ neu’n well yn y wyddor hynny. Gwyddorau ar wahân (‘Gwyddoniaeth Driphlyg’) Mae’r tair gwyddor (Bioleg, Cemeg, Ffiseg) yn cael eu hasesu’n annibynnol o’i gilydd gyda gradd wahanol yn cael ei roi i bob un o’r tair.

 

Arholiad allanol ysgrifenedig 90%

Pryd?

Asesiad o dan reolaeth (ymarferol) 10%

Cemeg 1 Bioleg 1 Ffiseg 1 80 marc yr un 1awr 45 mun y papur

Diwedd Blwyddyn 10

30 marc yr un: un asesiad Cemeg un asesiad Bioleg un asesiad Ffiseg

Cemeg 2 Bioleg 2 Ffiseg 2 80 marc yr un 1awr 45 mun y papur

Diwedd Blwyddyn 11

 

Mae pob arholiad allanol ar gael mewn dwy haen: Haen Sylfaenol (sy’n cwmpasu graddau “C” i “G”) a Haen Uwch (sy’n cwmpasu graddau “A*” i “E”). Mae’r asesiadau o dan reolaeth (ymarferol) yr un haen i bawb. Mae marc da gyda’r asesiadau ymarferol yn caniatáu i ddisgyblion sy’n sefyll Haen Sylfaenol ennill gradd “B” ar yr amod bod eu perfformiadau yn y papur ysgrifenedig yn dda.

 

Gwyddoniaeth (Dwyradd) TGAU Mae’r tair gwyddor (Bioleg, Cemeg, Ffiseg) yn cael eu hasesu mewn gwahanol arholiadau, ond mae marciau bob asesiad yn cael eu cyfuno i roi dwy radd derfynol ar gyfer y pwnc. Mae yna lai o gynnwys i’r cwrs o’i gymharu â’r gwyddorau ar wahân. Serch hyn mae modd astudio’r pwnc at Safon Uwch os yw’r disgybl yn sicrhau gradd ‘B’ neu’n well yn y wyddor hynny.

Arholiad allanol ysgrifenedig 90%

Pryd?

Asesiad o dan reolaeth (ymarferol) 10%

Cemeg 1 Bioleg 1 Ffiseg 1 60 marc yr un 1awr 15 mun y papur

Diwedd Blwyddyn 10

Bydd angen cwblhau dau o’r asesiadau isod: un asesiad Cemeg (30 marc) un asesiad Bioleg (30 marc) un asesiad Ffiseg (30 marc)

Cemeg 2 Bioleg 2 Ffiseg 2 60 marc yr un 1awr 15 mun y papur

Diwedd Blwyddyn 11

 

Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gradd Unigol) Mae’r tair gwyddor (Bioleg, Cemeg a Ffiseg) yn cael eu dysgu ar y cyd mewn dwy uned wahanol. Golygir hyn bod Uned 1 a 2 yn cynnwys gwaith Cemeg, Bioleg a Ffiseg. Mae’r cwrs yma yn cynnig mwy o gyfleoedd i wneud gwaith ymarferol, gyda 30% o’r marc terfynol yn cael ei roi am asesiadau ymarferol. Cyfunir marc y pedwar uned er mwyn rhoi gradd derfynol.

 

Arholiad

Pryd?

Uned 1 – Gwyddoniaeth yn y byd modern 75 marc 1 awr 30 munud.

Arholiad allanol ar ddiwedd Blwyddyn 10

Uned 2 – Gwyddoniaeth i gefnogi ein ffordd o fyw 75 marc 1 awr 30 munud.

Arholiad allanol ar ddiwedd Blwyddyn 11

Uned 3 – Asesiad seiliedig ar dasg 60 marc

Arholiad ymarferol Tachwedd - Rhagfyr Blwyddyn 11

Uned 4 – Asesiad ymarferol 30 marc

Arholiad ymarferol Ionawr - Chwefror Blwyddyn 11

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Arweinydd Pwnc: Mr Dewi Davies
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 100%
Gwaith cwrs: 0%

Anghenion Mynediad:

I astudio Ffiseg ym mlwyddyn 12 fydd rhaid ennill gradd B neu’n uwch mewn Ffiseg a Mathemateg ar lefel TGAU. Dylech fod wedi sefyll papurau Haen Uwch yn y ddau bwnc.

Beth yw Ffiseg?

Mae Ffiseg yng nghalon pob peth ac yn bwnc diddorol iawn i astudio yn yr ysgol, prif ysgol ac yn bellach. Mae Ffiseg yn helpu darganfod atebion i gwestiynau anodd fel sut ddechreuodd y bydysawd a sut y bydd yn dod i ben? Beth yw twll du? Ydy e’n bosib teithio yn ôl mewn amser? Ffiseg sy’n darparu’r sylfaen i ddatblygiad technolegau newydd a dyfodol ein byd. O ddarnau lleiaf ein cyrff i’r galaethau mwyaf, Ffiseg sy’n helpu ni i ddeall sut mae ein bydysawd yn gweithio.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Ffiseg?

UG Uned 1 Mudiant, Egni A Mater

UG Uned 2. Trydan a Golau

U2 Uned 3. Osgiliadau a Niwclysau

U2 Uned 4. Meysydd ac Opsiynau

U2 Uned 5. Arholiad Ymarferol

Gyrfaoedd posib:

Mae Ffiseg yn agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd. Mae dros hanner y ffisegwyr yn gweithio ym meysydd ymchwiliol a datblygiad, peirianneg a thechnoleg gwybodaeth. Mae eraill yn gweithio ym meddyginiaeth, seryddiaeth, meteoroleg a dysgu. Mae cyfleon da i’w cael yn y sectorau ariannol, telathrebu a diwydiant trydanol, pob un â thâl uchel o tua £40Mil. Mae rhai Ffisegwyr yn gweithio i ddatrys problemau ar ffin ein dealltwriaeth ac eraill yn defnyddio Ffiseg i ddatrys problemau heriol sy’n codi o agweddau diwydiannol ym mywyd pob dydd.

Pupil Comment:

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

cbac.co.uk/qualifications/science/as-a-level/physics-as-a-level-2015/