Skip to content ↓
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Arweinydd Pwnc: Mr Sion Evans
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 100%
Gwaith cwrs: 0%

 “Mae dysgu am Wleidyddiaeth wedi ehangu fy nealltwriaeth o beth sy’n digwydd yn y DU yn ystod y cyfnod diddorol rydym yn gwynebu” Disgybl Blwyddyn 12

Anghenion Mynediad:

Gofynnwn i ddisgyblion i ystyried y pwnc os ydynt wedi derbyn gradd B neu’n uwch yn TGAU Cymraeg neu Saesneg. Mae diddordeb cyffredinol yn Ngwleidyddiaeth yn dymunol.

Beth yw Gwleiddyddiaeth?

Gwleidyddiaeth yw’r astudiaeth o ddigwyddiadau yn gysylltiedig gyda llywodraethant gwlad neu ardal.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Gwleidyddiaeth?

Ar lefel UG, bydd dysgwyr yn astudio dwy uned orfodol gan feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth eang am y system wleidyddol yng Nghymru a’r DU. Mae’r uned gyntaf yn canolbwyntio ar y drefn lywodraethu, gan ystyried strwythurau seneddol, adrannau gweithredol craidd a llywodraethiant amllefel yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol. Mae’r ail uned yn canolbwyntio ar gyfranogiad ac ymddygiad pleidleisio, systemau etholiadol, pleidiau gwleidyddol a charfanau pwyso/ protest. Bydd y dysgwyr hynny sy’n symud ymlaen i astudio ar lefel Uwch yn astudio dwy uned orfodol ac yn cael cyfle i arbenigo ymhellach ar lefel U2. Mae’r uned cysyniadau a damcaniaethau gwleidyddol yn canolbwyntio ar feithrin gwybodaeth feirniadol am bedwar traddodiad ideolegol allweddol a’u perthnasedd cyfoes i wleidyddiaeth yng Nghymru ac ar lefel fyd-eang. Mae’r uned llywodraeth a gwleidyddiaeth UDA yn canolbwyntio ar y syniadau a’r sefydliadau sy’n sail i system wleidyddol America.

Cynnwys y cwrs:

Llywodraeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig Byw a chyfranogi mewn democratiaeth Cysyniadau a damcaniaethau gwleidyddol Llywodraeth a gwleidyddiaeth UDA

Gyrfaoedd posib:

Mae’r gyrfaoedd bosib ar ôl astudio gwleidyddiaeth yn amrywiol.  Yn uniongyrchol, y swyddi mwyaf amlwg am astudio gwleidyddiaeth yw i weithio ar ran gwleidyddydd fel ymchwilydd; gweithio i’r wasanaeth sifil; neu gwaith i’r cyngor lleol. Yn ogystal, mae nifer o swyddi sy’n gysylltiedig gyda’r pwnc er engraifft newyddiaduraeth; y gyfraith ac ymchwilydd.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://www.cbac.co.uk/qualifications/government-and-politics/r-government-and-politics-gce-2017