Skip to content ↓

Astudio Yng Nghaergrawnt

Mae Rhys Griffiths wedi derbyn lle i astudio yn un o golegau Rhydgrawnt y flwyddyn nesaf.

Llongyfarchiadau mawr i Rhys Griffiths, blwyddyn 13, ar dderbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt y flwyddyn nesaf. Derbyniwyd Rhys i astudio Saesneg yng ngholeg Gonville a Caius yng Nghaergrawnt. Ymfalchïwn yn llwyddiant Rhys wrth iddo ddilyn yn ôl troed y deg disgybl blaenorol o’r ysgol a dderbyniodd gynnig i astudio ym Mhrifysgolion Rhydychen neu Gaergrawnt dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae Rhys, sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn 13, yn astudio Saeneg, Hanes, Mathemateg a'r Fagloriaeth Gymraeg. Dywedodd Rhys, ‘Edrychaf ymlaen yn arw at gael cyfarfod pobl newydd a rhannu profiadau newydd. Wrth gwrs, carwn ddiolch i’r ysgol am eu holl gefnogaeth dros y blynyddoedd, ond hefyd wrth baratoi ar gyfer y profiad arbennig hwn.’

Dywedd Mr Angell-Jones, y Pennaeth, 'Rydym yn hynod falch o Rhys a'i lwyddiant diweddar. Bob blwyddyn, rydym yn ymfalchio wrth weld ein disgyblion chweched dosbarth yn llwyddo ac yn parhau gyda'u hastudiaethau. Mae derbyn cynnig i astudio yn un o Brifysgolion gorau'r byd yn dipyn o gamp ac yn glod i Rhys, ond hefyd i'r ysgol.'

Pob dymuniad da i ti, Rhys!