Addysg Gorfforol
Anghenion Mynediad:
Dylech lwyddo i ennill gradd C neu’n uwch mewn Addysg Gorfforol ar lefel TGAU.
Beth yw Addysg Gorfforol?
Mae’r fanyleb hon wedi’i llunio i ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o addysg gorfforol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau. Mae’r fanyleb wedi’i chynllunio i integreiddio theori ac arfer gyda phwyslais ar gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut mae’r gwahanol gysyniadau damcaniaethol yn effeithio ar eu perfformiad nhw eu hunain drwy integreiddio theori ac arfer. Bydd dysgwyr hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion cyfoes sy’n berthnasol i addysg gorfforol a chwaraeon yng Nghymru.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Addysg Gorfforol?
• datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o gysyniadau addysg gorfforol a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd newydd a newidiol
• datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng theori ac arbrofi
• bod yn ymwybodol o’r ffyrdd y mae datblygiadau mewn technoleg gwybodaeth ac offer yn cael eu defnyddio ym maes chwaraeon
• gwerthfawrogi cyfraniadau Addysg Gorfforol i’r gymdeithas
• dod â gwybodaeth at ei gilydd am ffyrdd y mae gwahanol feysydd chwaraeon yn cysylltu â’i gilydd
• cynnal a datblygu eich mwynhad o Addysg Gorfforol a’ch diddordeb yn y pwnc
Bydd y gwersi yn cynnwys cyfnodau dysgu a thrafodaeth dosbarth cyfan/rhannol a gwaith ymarferol ynghyd â chyfnodau tiwtorial unigol, cyflwyniadau gan ddisgyblion a gwaith darllen ac astudio unigol. Cewch eich hannog i ddefnyddio amrediad eang o adnoddau gan gynnwys gwerslyfrau’r ysgol, cylchgronnau a meddalwedd perthnasol yn ogystal â’r cyfoeth o wybodaeth sydd i’w gael ar y rhyngrwyd.
Cynnwys y cwrs:
• Uned 1 Dulliau Bywiog o Fyw ac Addysg Gorfforol
• Uned 2 Gwella Perfformiad mewn Addysg Gorfforol
• Uned 3 Perfformiad, Darpariaeth a Chyfranogiad mewn Addysg Gorfforol
• Uned 4 Mireinio Perfformiad mewn Addysg Gorfforol
Gyrfaoedd posib:
Bydd Safon UG/U yn fanteisiol iawn i’r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn unrhyw faes addysg gorfforol e.e. ffisiotherapydd, maethion neu hyfforddiant biomecaneg. Mae’r amrediad o sgiliau byddwch yn datblygu drwy ddilyn y cwrs yma yn rhai fedrwch drosglwyddo i bob math o swyddi ac mae canran uchel o bobl â chymwysterau mewn Addysg Gorfforol yn symud ymlaen i weithio fel rheolydd hamdden, newyddiadurwr chwaraeon, yr heddlu neu’r gwasanaeth tân.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs: