Astudiaethau Busnes
Mae’r pwnc yn galluogi dysgwyr i ymchwilio i fathau a meintiau gwahanol o gyfundrefnau mewn gwahanol sectorau ac amgylcheddau busnes, gan ddefnyddio cyddestunau lleol, cenedlaethol a byd-eang, yn cynnwys data sy’n berthnasol i amgylchedd busnes Cymru. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gyfannol o fusnes a menter ac yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r bygythiadau sydd ynghlwm â gweithredu mewn marchnad fyd-eang.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Busnes?
Bydd disgwyl i ddysgwyr fod yn gyfarwydd â materion cyfredol ym myd busnes a gallu ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso cyfleoedd a phroblemau busnes cyfoes mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, gan gydnabod ar yr un pryd sut mae busnesau yn addasu i weithredu mewn amgylchedd busnes dynamig. Bydd dysgwyr yn dod i ddeall pwysigrwydd rôl busnesau bach yn yr economi yng Nghymru a gweddill y DU. Yn ogystal, byddant yn nodi’r cyfleoedd sy’n bodoli i fentrwyr/ entrepreneuriaid, yn ogystal â phwysigrwydd busnesau sefydledig a chyfundrefnau nad ydynt yn gweithredu ar gyfer elw wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau. Bydd dysgwyr yn defnyddio nifer o dechnegau dadansoddi, yn cynnwys modelau gwneud penderfyniadau, offer gwerthuso buddsoddiad a dadansoddi cymarebau, i ymchwilio i gyfleoedd a phroblemau busnes er mwyn penderfynu strategaeth fusnes mewn amrywiol gyd- destunau. Bydd disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau rhifiadol a gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau gan ddefnyddio dulliau meintiol ac ansoddol wedi’u cymhwyso yng nghyd-destun UG a Safon Uwch Busnes.
Dyma rhai o’r meysydd bydd angen i ddysgwyr astudio yn UG a SU:
• Menter
• Cynlluniau busnes
• Marchnadoedd
• Ymchwil marchnata
• Strwythur busnes
• Lleoliad busnes
• Cyllid busnes
• Derbyniadau a chostau busnes.
• Marchnata
• Cyllid
• Pobl mewn cyfundrefnau (adnoddau dynol)
• Rheoli gweithrediadau.
Cynnwys y cwrs:
Uned 1: Cyfleoedd Busnes
Uned 2: Swyddogaethau Busnes
Uned 3: Dadansoddi Busnes a Strategaeth
Uned 4: Busnes mewn Byd sy’n Newid
Gyrfaoedd posib:
Gall dilyn cwrs mewn Busnes arwain y ffordd at swydd mewn ystod eang o ddiwylliannau. Dyma rai engreifftiau: Bancio, Yswiriant, rhedeg busnes eich hun, Marchnata, Cyfrifeg, Gyfraith Busnes, Adran Gwasnaeth Cwsmer, Athro/ Athrawes Busnes, Gwaith hyrwyddo/ Hysbysebu, Gwerthiannau, Adnoddau Dynol, Adwerthu.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.wjec.co.uk/qualifications/business/r-business-gce-as-a/