Skip to content ↓
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Arweinydd Pwnc: Mr Richard Chidley
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Bwrdd Arholi: Pearson
Arholiadau: 0%
Gwaith cwrs: 100%

‘Mae cwrs BTEC Chwaraeon yn gwrs diddorol iawn. Mae yn cynnwys agweddau ymarferol sydd yn cael ei atgyfnerthu gyda gwaith cwrs perthnasol. Nid oes arholiadau ar y diwedd, felly lleihau’r pwysau gwaith.’

Olivia Townsend

Anghenion Mynediad:

Dylech lwyddo i ennill gradd C neu’n uwch mewn Addysg Gorfforol ar lefel TGAU.

Beth yw BTEC Chwaraeon?

Cwrs cyffrous i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ystod o weithgareddau corfforol. Ceir cyfle i wella perfformiad mewn dewis o weithgareddau, drwy waith ymarferol yn ogystal ag astudiaeth o’r holl agweddau sy’n arwain at wella perfformiad. Ceir hefyd gyfle i gyfarwyddo gyda’r amryw o weithdrefnau a sgiliau hyfforddi ac arwain yn ogystal â materion iechyd a diogelwch.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn BTEC Chwaraeon?

• sut i darparu addysg a hyfforddiant i ddysgwyr chwaraeon a hamdden

• cyflawni cymhwyster galwedigaethol lefel 3 a gydnabyddir yn genedlaethol

• datblygu ystod o dechnegau, sgiliau personol a phriodoleddau sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith

• datblygu fy sgiliau allweddol sydd yn rhan annatod o astudio BTEC Chwaraeon gyda nifer o gyfleoedd i’w defnyddio a’u hasesu. e.e. cyfathrebu, datrys problemau, gweithio gydag eraill, gwella dysgu a pherfformiad.

Cynnwys y cwrs:

Blwyddyn 1 (Bl 12)

Uned 1: Egwyddorion Anatomeg a Ffisioleg Mewn Chwaraeon

Uned 2: Ffisioleg Mewn Ffitrwydd

Uned 3: Asesiad Risg mewn Chwaraeon

Uned 4: Profion Ffitrwydd Mewn Chwaraeon ac Ymarfer

Blwyddyn 2 (Bl 13)

Uned 5: Chwareon Tîm Ymarferol / Chwaraeon Unigol Chwaraeon

Uned 6: Arweiniaeth mewn Chwaraeon

Uned 7: Sgiliau ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur ar y Tir.

Gyrfaoedd posib:

Mae’r BTEC Cenedlaethol mewn Chwaraeon yn cynnig cyfleodd i ddysgwyr gael mynediad i gyflogaeth yn y sector chwaraeon neu hamdden actif, e.e. hyfforddi, dysgu, rheolaeth hamdden a chwaraeon, ac amryw o ardaloedd gwahanol o fywyd chwaraeon a hamdden neu i ddilyn cwrs addysg uwch galwedigaethol fel y BTEC Cenedlaethol Uwch mewn Chwaraeon.