Anghenion Mynediad:
Bydd disgwyl i chi fod wedi llwyddo i gael o leiaf gradd B ar yr Haen Uwch mewn Gwyddoniaeth Ychwanegol neu mewn Bioleg.
Beth yw Bioleg?
Astudiaeth o organebau byw, wedi’u rhannu’n lawer o feysydd arbenigol sy’n ymdrin â’u morffoleg, ffisioleg, anatomeg, ymddygiad, tarddiad a dosbarthiad.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Bioleg?
UNED 1. Cysyniadau Sylfaenol a Threfniadaeth
UNED 2. Bioamrywiaeth a Ffisoleg Systemau’r Corff
UNED 3. Egni, Homeostasis a’r Amgylchedd
UNED 4. Amrywiad Etifeddiad ac Opsiynau
UNED 5. Arholiad Ymarferol
Mae’r rhan helaeth o’r addysgu wedi ei seilio ar drafodaeth ar sut mae organebau penodol a’r systemau o fewn yr organebau hynny yn gweithio. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso egwyddorion Biolegol mewn amrediad eang o sefyllfaoedd. Cynhelir gwaith ymarferol yn rheolaidd trwy gydol y cwrs a defnyddir hyn fel sail i drafodaethau a datrus probemau.
Cynnwys y cwrs:
• Biocemeg
• Geneteg
• Microbioleg
• Botaneg
• Ffisioleg
• Ecoleg
Gyrfaoedd posib
Mae Bioleg hefyd yn addas i fyfyrwyr sydd ddim am ddilyn gyrfa wyddonol a gall gael ei gyfuno â diddordebau eraill. Mae cymhwyster mewn Bioleg yn gallu arwain at nifer helaeth o yrfaoedd megis Biotechnoleg, Cadwraeth, Deintyddiaeth, Addysg, Meddygaeth, Nyrsio, Fferyllaeth, Ffisiotherapi, Seicoleg, Chwaraeon a Ffitrwydd, Gwyddorau Fforensig a’r Gwyddorau Milfeddygol.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.wjec.co.uk/qualifications/science/as-a-level/biology-as-a-level-2015/?language_id=2