Skip to content ↓

Mae’r cam o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn gyfnod pwysig a chyffrous ym mywyd pob plentyn.  Drwy gydweithio ac ymddiried yn ein gilydd rydym am sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd i ben mynydd ei allu a’i dalentau.  Gwnawn hynny drwy gynnig cyfle, cynhaliaeth ac arweiniad o fewn cymdeithas bositif, eangfrydig, diogel a gwar.

Ym mlwyddyn 7 ein nod yw i'r disgyblion magu hyder, annibyniaeth a diddordeb yn yr ystod eang o bynciau sydd ar gael yn ogystal â chymryd rhan yn y gweithgareddau allgyrsiol sydd ar gael.

Cadwch lygad ar y dudalen yma am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â Blwyddyn 7.

 

 

 

Mr Gareth Jones, Pennaeth Blwyddyn 7