Skip to content ↓

Croeso i dudalen Blwyddyn 8! Mae hon yn flwyddyn gyffrous i chi ble gewch chi gyfle i barhau gyda bwrlwm a chyfleoedd yr ysgol gan sefydlu mwy o arferion dysgu annibynnol.  Byddwch yn parhau i astudio’r holl bynciau eleni o dan ofal bugeiliol arbennig eich Tiwtor a’ch Mentor Pesonol o Flwyddyn 12.  Bydda i hefyd, Mrs Morgan, yn eich arwain drwy’r flwyddyn ac yma i'ch cefnogi drwy bopeth.  Dyma’r flwyddyn lle gewch chi gyfle i brofi taith dramor am y tro cyntaf! Hoffech chi fynd i Baris neu Barc Antur Asterix i ymarfer eich Ffrangeg? Beth am sgio ar lethrau’r Eidal? Cewch gyfle hefyd i fentro ar hyd arfordir y Gwyr gyda thaith blynyddol yr Adran Ddaearyddiaeth. Mae eich ymroddiad i dimau chwaraeon yn holl bwysig wrth i chi fireinio eich sgiliau. Yn ogsytal, mae disgwyliadau uchel ohonoch wrth i chi gymryd rhan ym mherfformiadau’r Adran Gerdd a Drama. Ein nod drwy popeth yw sicrhau eich bod chi’n ddysgwyr hapus, iach, uchelgeisiol sy’n ymfalchio yn eich Cymreictod. 

Cofiwch ein bod ni yma i chi ar unrhyw adeg, felly cysylltwch a mi drwy ebost  –post@bromorgannwg.org.uk. 

Cadwch lygad ar y dudalen yma am y wybodaeth ddiweddaraf a llythyrau cyfredol.

 

 

 

Mrs Bethan Morgan, Pennaeth Blwyddyn 8