Skip to content ↓

Croeso i dudalen blwyddyn 9!


Mae’n flwyddyn llawn antur a chyffro. Wrth gyrraedd penllanw CA3, gwelir disgyblion yn aeddfedu ac yn datblygu i fod yn fodelau rôl i ddisgyblion iau yr ysgol. Bydd cyfle i hyfforddi a magu hyder i wneud hyn drwy gymryd mantais o’r cyfleoedd eang o ddigwyddiadau awyr agored, y wobr dug Caeredin a chwrs preswyl Glanllyn.  Ceir un cyfle arall i fwynhau ystod ac amrywiaeth y Cwriwcwlwm yn ei gyfanrwydd, cyn mynd ati i wneud penderfyniadau cyffrous am bynciau opsiwn ar gyfer cyrsiau TGAU. Mae’r sgiliau a ddysgwyd yn yr holl bynciau yn cyfuno i arwain ein disgyblion tuag at lwyddiant. Bydd ein nod yn parhau ymlaen o flwyddyn 7 i fagu disgyblion uchelgeisiol a pharchus sydd yn medru yn hyderus yn y Gymraeg.

Pennaeth Blwyddyn 9

 


 

Cliciwch i agor Llyfryn Opsiynau TGAU 2024-26.

Clawr llyfryn opsiynau TGAU