Skip to content ↓
Arweinydd Pwnc: Mr J Crimp 

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

CA4 (Blwyddyn 10-11)

Mae’r fanyleb TGAU hon yn cyflwyno dysgwyr i fyd busnes, gan eu grymuso i ddatblygu fel unigolion mentrus sydd â meddyliau masnachol. Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau, fydd yn eu galluogi i ddefnyddio gwybodaeth fusnes yn feirniadol, i ddatblygu dadleuon, i wneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau, a’u paratoi ar gyfer astudiaeth bellach a llwybrau gyrfaoedd.

 

Mae cynnwys y pwnc yn galluogi dysgwyr i gymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i wahanol gyd-destunau busnes, yn cynnwys amrywiaeth o fusnesau o fentrau bach i gwmnïau rhyngwladol mawr a busnesau sy’n gweithredu mewn cyddestunau lleol, cenedlaethol a byd-eang.

 

Mae’r cynnwys yn cael ei gyflwyno mewn chwe maes testun clir a phenodol:

• Gweithgaredd busnes

• Dylanwadau ar fusnes

• Gweithrediadau busnes

• Cyllid

• Marchnata

• Adnoddau dynol

 

Arholiadau

Bydd cynnwys pwnc TGAU Busnes yn cael ei asesu mewn dau bapur arholiad:

 

Uned 1: Byd Busnes - 62.5% o’r cymhwyster

Arholiadau ysgrifenedig: 2 awr

Cymysgedd o atebion byr a chwestiynau strwythuredig yn seiliedig ar ddeunydd ysgogi yn ymdrin â holl gynnwys y fanyleb.

Cyfanswm marciau: 100

 

Uned 2: Canfyddiadau Busnes - 37.5% o’r cymhwyster

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud

Cwestiynau ymateb i ddata yn ymdrin â holl gynnwys y fanyleb

Cyfanswm marciau: 60

 

Mae’r ddwy uned yn asesu cynnwys o’r chwe maes testun, felly bydd yn ofynnol i ddysgwyr ddefnyddio gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o bob elfen o gynnwys y pwnc ym mhob asesiad.

 

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Arweinydd Pwnc: Mr J Crimp
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 100%
Gwaith cwrs: 0%

Anghenion Mynediad:

6 TGAU A*-C gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, a Mathemateg. Disgwylir i ddisgyblion sydd wedi astudio Busnes TGAU i gael o leiaf gradd C yn y pwnc.

Beth yw Busnes?

Mae’r pwnc yn galluogi dysgwyr i ymchwilio i fathau a meintiau gwahanol o gyfundrefnau mewn gwahanol sectorau ac amgylcheddau busnes, gan ddefnyddio cyddestunau lleol, cenedlaethol a byd-eang, yn cynnwys data sy’n berthnasol i amgylchedd busnes Cymru. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gyfannol o fusnes a menter ac yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r bygythiadau sydd ynghlwm â gweithredu mewn marchnad fyd-eang.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Busnes?

Bydd disgwyl i ddysgwyr fod yn gyfarwydd â materion cyfredol ym myd busnes a gallu ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso cyfleoedd a phroblemau busnes cyfoes mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, gan gydnabod ar yr un pryd sut mae busnesau yn addasu i weithredu mewn amgylchedd busnes dynamig. Bydd dysgwyr yn dod i ddeall pwysigrwydd rôl busnesau bach yn yr economi yng Nghymru a gweddill y DU. Yn ogystal, byddant yn nodi’r cyfleoedd sy’n bodoli i fentrwyr/ entrepreneuriaid, yn ogystal â phwysigrwydd busnesau sefydledig a chyfundrefnau nad ydynt yn gweithredu ar gyfer elw wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau. Bydd dysgwyr yn defnyddio nifer o dechnegau dadansoddi, yn cynnwys modelau gwneud penderfyniadau, offer gwerthuso buddsoddiad a dadansoddi cymarebau, i ymchwilio i gyfleoedd a phroblemau busnes er mwyn penderfynu strategaeth fusnes mewn amrywiol gyd- destunau. Bydd disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau rhifiadol a gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau gan ddefnyddio dulliau meintiol ac ansoddol wedi’u cymhwyso yng nghyd-destun UG a Safon Uwch Busnes.

Dyma rhai o’r meysydd bydd angen i ddysgwyr astudio yn UG a SU:

• Menter

• Cynlluniau busnes

• Marchnadoedd

• Ymchwil marchnata

• Strwythur busnes

• Lleoliad busnes

• Cyllid busnes

• Derbyniadau a chostau busnes.

• Marchnata

• Cyllid

• Pobl mewn cyfundrefnau (adnoddau dynol)

• Rheoli gweithrediadau.

Cynnwys y cwrs:

Uned 1: Cyfleoedd Busnes

Uned 2: Swyddogaethau Busnes

Uned 3: Dadansoddi Busnes a Strategaeth

Uned 4: Busnes mewn Byd sy’n Newid

Gyrfaoedd posib:

Gall dilyn cwrs mewn Busnes arwain y ffordd at swydd mewn ystod eang o ddiwylliannau.  Dyma rai engreifftiau: Bancio, Yswiriant, rhedeg busnes eich hun, Marchnata, Cyfrifeg, Gyfraith Busnes, Adran Gwasnaeth Cwsmer, Athro/ Athrawes Busnes, Gwaith hyrwyddo/ Hysbysebu, Gwerthiannau, Adnoddau Dynol, Adwerthu.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://www.wjec.co.uk/qualifications/business/r-business-gce-as-a/