Celf a Dylunio
Anghenion Mynediad:
Dylech lwyddo i ennill gradd B, neu’n uwch, wrth astudio Celf a Dylunio TGAU. Rhown ystyriaeth arbennig i ddisgyblion sydd yn ennill gradd C os oes ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gwblhau’r cwrs. Rhoddir ystyriaeth arbennig i ddisgyblion sydd heb astudio Celf a Dylunio TGAU.
Beth yw Celf a Dylunio?
Mae’r cwrs Celf a Dylunio wedi ei gynllunio er mwyn galluogi dysgwyr i ennill profiad dysgu eang ac hyblyg. Mae’r fanyleb yn adeiladu ar ehangder a dyfnder arfer creadigol disgyblion ac yn cynnig cyfle i weithio fel unigolyn ar draws y meysydd astudio (celfydd gain, tecstilau, cyfathrebu graffeg, dylunio 3D a ffotograffiaeth). Mae yna elfen ysgrifenedig i’r gwaith ac mae disgwyl i ddisgyblion allu egluro a gwerthuso gwaith yn ddeallus.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Celf a Dylunio?
• cwricwlwm eang yn ymwneud gydag ymwybyddiaeth, diddordeb a gwneud creadigol
• cyfleoedd ar gyfer camau cyntaf hyderus mewn datblygiad personol
• cymysgedd ysgogol o arbrofi, cymhwysiad a darganfyddiadau cyfleoedd i ddysgu drwy amrywiaeth o sgiliau deongliadol a mynegiannol
Cynnwys y cwrs:
Uned 1 – Ymholiad Creadigol Personol (Blwyddyn 12)
Project/portffolio ymchwiliol, estynedig a chanlyniad/au yn seiliedig ar themâu a deunydd pwnc sydd yn bersonol ac yn ystyrlon i’r dysgwr. Rhaid cyfuno gwaith beirniadol, ymarferol a damcaniaethol.
Uned 2 – Ymchwiliad Personol (yn cynnwys dwy ran) (Blwyddyn 13)
Prif broject/portffolio ymchwiliol beirniadol, ymarferol, damcaniaethol a chanlyniad/au yn seiliedig ar themâu a deunydd pwnc sydd ag arwyddocâd personol. Elfen ysgrifennu estynedig, gallai gynnwys delweddau a thestunau, ac mae’n rhaid iddo ymwneud yn amlwg â’r gwaith ymarferol.
Uned 3 – Aseiniad wedi’i osod yn allanol (Blwyddyn 13)
Cyfnod paratoi, ac yna defnyddir y gwaith hwn wrth wireddu’r syniadau yn yr astudiaeth ddwys a manwl 15 awr (amodau dan oruchwyliaeth).
Gyrfaoedd posib:
Paratoad ardderchog ar gyfer bywyd, gan gynnwys gwaith ac addysg uwch a phellach. Dylunio mewnol, pensaerniaeth, dylunio theatr, ffotograffiaeth, animeddio, celfyddid gain, dylunio gemwaith, dylunio gwisgoedd, dylunio graffeg, dylunio cynnyrch, darlunio, cynllunio gwefan ac apiau.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.wjec.co.uk/qualifications/art-and-design/r-art-and-design-gce-asa-from-2015/