Skip to content ↓
Dywed Picasso, ‘mae pob plentyn yn arlunydd’ a dyma osodiad sy’n wir yn ein hadran Celf a Dylunio. Mae amryw o gyfleodd i hunan fynegi trwy gelf gain, celf stryd, trwy astudio celf o wahanol ddiwylliannau a chan ddylunio cymeriad gêm cyfrifiadur eu hunain.
Adran:

Mrs N Griffiths - Pennaeth Adran

Mr M Roberts 

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Trydar: @YGBMcelf
Gweithgareddau Ychwanegol:
  • Clwb celf

“Mae Celf Safon Uwch yn sicrhau fy mod yn datblygu fy sgiliau creadigol drwy arbrofi gyda nifer o dechnegau gwahanol. Mae’r gwaith yn gallu bod yn heriol ac yn cynnig cyfle i fi gyrraedd fy mhotensial.”

“Yn bersonol, rwy’n teimlo fod Celf Safon Uwch yn cynnig cyfle i fod yn fwy creadigol na rhai pynciau eraill. Mae gen i ryddid i arbrofi gyda thechnegau a chyfryngau gwahanol ac rwy’n cael cyfle i werthfawrogi arddulliau a gwaith gan arlunwyr gwahanol.”

“Rwy wedi dewis astudio Celf Safon Uwch wedi i fi fwynhau cwblhau’r cwrs TGAU ym Mlwyddyn 10 ac 11. Mae’r gwersi yn cynnig cyfle i arbrofi gyda thechnegau ac adnoddau ac hefyd i fod yn greadigol.”

CA3 (Blwyddyn 7-9)

 

Blwyddyn

Tymor

Themau

7

Hydref

Lluniadu cregyn

 

Gwanwyn

Project celfyddydau ‘Gaeth i’r Gem’

(Project ar y cyd gyda Cerdd, Drama a Tech Gwyb)

 

Haf

 

8

Hydref

Celf o ddiwylliant arall

 

Gwanwyn

 

 

Haf

Lliw

9

Hydref

Celf stryd - graffiti

 

Gwanwyn

Bwyd soffach

 

Haf

 

 

CA4 (Blwyddyn 10-11) Celf a Dylunio

Amcanion cyffredinol

Mae’r cwrs TGAU Celf a Dylunio yn cynnwys dewis eang o sgiliau a phrofiadau a fydd yn galluogi’r disgyblion i ddatblygu syniadau gwreiddiol a’u troi’n gynnyrch gorffenedig, gan ddilyn ffordd o weithio penodedig.

Yn ystod y cwrs fe fydd yn rhaid i bob ymgeisydd blethu astudiaethau o waith Arlunwyr, Crefftwyr a Dylunwyr i’w gwaith. Fe fydd cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau yn y meysydd canlynol –

• Lluniadu a Pheintio

• Argraffu

• Tecstilau

• Dylunio 3D

• Ffotograffiaeth

• Astuiaethau Beirniadol a Chyd-destunol

 

Fe fydd y cwrs TGAU Celf a Dylunio yn cynnwys dwy ran:

• Asesiad 1: Portffolio yr Ymgeisydd (60%)

• Asesiad 2: Tasg a Osodir yn Allanol (40%)

 

Fe fydd yr uned portffolio yn cael ei osod yn fewnol gan yr adran ac yn cael ei ddatblygu o fan cychwyn personol. Fe fydd y portffolio yn hybu cymhelliant diddordeb personol pob disgybl ac ar yr un pryd yn cysylltu mewn ffordd addas gyda phrofiadau addysgiadol gwerthfawr.

 

Mae’r cwrs yn cynnwys pedwar prif faes. Mae’r meysydd yma yn cael eu cynnwys yn y pedwar nod asesu:

• Dealltwriaeth cyd-destunol

• Gwneud creadigol

• Cofnodi myfyriol

• Cyflwyniad personol

 

Gelwir y Papur Cwestiwn yn Brawf Rheoledig and mae’n cynnwys elfen o’r cwrs a osodir yn allanol ac mae’n nodweddiadol i gynnwys spardunau gweledol ac ysgrifenedig.

 

Crynodeb o’r asesiad

 

Uned 1 (Portffolio yr Ymgeisydd) (60%)                                      

Gosodir yn fewnol ac fe ddatblygir o fan cychwyn personol neu un a osodir yn fewnol.

Ymgeisydd yn dethol a chyflwyno detholiad o waith o’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y cwrs.

Mae angen tystiolaeth o sut mae’r ymgeisydd wedi cwrdd â phob un o’r nodau asesu.

Uned 2 (Tasg neu man cychwyn a osodir yn allanol) (40%)

Ymchwil ac astudiaethau paratoadol.

Angen cynnal cyfnod parhaol o astudio sydd ddim yn fwy na 10 awr.

Cyflwynir i’r ymgeisydd ddim yn gynarach na dechrau Ionawr yn ystod blwyddyn yr arholiad.

Mae angen tystiolaeth o sut mae’r ymgeisydd wedi cwrdd â phob un o’r nodau asesu.

 

CA4 (Blwyddyn 10-11) Tecstiliau

Amcanion Cyffredinol

Mae’r cwrs TGAU Celf a Dylunio – Dylunio Tecstilau yn cynnwys dewis eang o sgiliau a phrofiadau a fydd yn galluogi’r disgyblion i ddatblygu syniadau gwreiddiol a’u troi’n gynnyrch gorffenedig, gan ddilyn ffordd o weithio penodedig.

Yn ystod y cwrs fe fydd yn rhaid i bob ymgeisydd blethu astudiaethau o waith Arlunwyr, Crefftwyr a Dylunwyr i’w gwaith.

Fe fydd cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau yn y meysydd canlynol –

• Lluniadu a Pheintio ar ddefnydd

• Argraffu

• Technegau megis ‘batic’

• Gwnio

• Astudiaethau Beirniadol a Chyddestunol

 

Fe fydd y cwrs TGAU Celf a Dylunio – Dylunio Tecstilau yn cynnwys DWY ran:

• Asesiad 1: Portffolio yr Ymgeisydd (60%)

• Asesiad 2: Tasg a Osodir yn Allanol (40%)

 

Fe fydd yr uned portffolio yn cael ei osod yn fewnol gan yr adran ac yn cael ei ddatblygu o fan cychwyn personol. Fe fydd y portffolio yn hybu cymhelliant diddordeb personol pob disgybl ac, ar yr un pryd, yn cysylltu mewn ffordd addas gyda phrofiadau addysgiadol gwerthfawr. Mae’r cwrs yn cynnwys pedwar prif faes.

Mae’r meysydd hyn yn cael eu cynnwys yn y pedwar nod asesu:

• Dealltwriaeth cyd-destunol

• Gwneud creadigol

• Cofnodi myfyriol

• Cyflwyniad personol

 

Gelwir y Papur Cwestiwn yn Brawf Rheoledig ac mae’n cynnwys elfen o’r cwrs a osodir yn allanol, ac mae’n nodweddiadol i gynnwys sbardunau gweledol ac ysgrifenedig.

 

Crynodeb o’r Asesiad

 

Uned 1 (Portffolio yr Ymgeisydd) (60%)                                      

Gosodir yn fewnol ac fe ddatblygir o fan cychwyn personol neu un a osodir yn fewnol.

Ymgeisydd yn dethol a chyflwyno detholiad o waith o’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y cwrs.

Mae angen tystiolaeth o sut mae’r ymgeisydd wedi cwrdd â phob un o’r nodau asesu.

Uned 2 (Tasg neu man cychwyn a osodir yn allanol) (40%)

Ymchwil ac astudiaethau paratoadol.

Angen cynnal cyfnod parhaol o astudio sydd ddim yn fwy na 10 awr.

Cyflwynir i’r ymgeisydd ddim yn gynarach na dechrau Ionawr yn ystod blwyddyn yr arholiad.

Mae angen tystiolaeth o sut mae’r ymgeisydd wedi cwrdd â phob un o’r nodau asesu.

 

CA5 (Blwyddyn 12-13) 

Arweinydd Pwnc: Mrs Nerys Griffiths
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 40% (Bl13)
Gwaith cwrs: 100% (Bl12) 60% (Bl13)

Anghenion Mynediad:

Dylech lwyddo i ennill gradd B, neu’n uwch, wrth astudio Celf a Dylunio TGAU. Rhown ystyriaeth arbennig i ddisgyblion sydd yn ennill gradd C os oes ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gwblhau’r cwrs. Rhoddir ystyriaeth arbennig i ddisgyblion sydd heb astudio Celf a Dylunio TGAU.

Beth yw Celf a Dylunio?

Mae’r cwrs Celf a Dylunio wedi ei gynllunio er mwyn galluogi dysgwyr i ennill profiad dysgu eang ac hyblyg. Mae’r fanyleb yn adeiladu ar ehangder a dyfnder arfer creadigol disgyblion ac yn cynnig cyfle i weithio fel unigolyn ar draws y meysydd astudio (celfydd gain, tecstilau, cyfathrebu graffeg, dylunio 3D a ffotograffiaeth). Mae yna elfen ysgrifenedig i’r gwaith ac mae disgwyl i ddisgyblion allu egluro a gwerthuso gwaith yn ddeallus.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Celf a Dylunio?

• cwricwlwm eang yn ymwneud gydag ymwybyddiaeth, diddordeb a gwneud creadigol

• cyfleoedd ar gyfer camau cyntaf hyderus mewn datblygiad personol

• cymysgedd ysgogol o arbrofi, cymhwysiad a darganfyddiadau cyfleoedd i ddysgu drwy amrywiaeth o sgiliau deongliadol a mynegiannol

Cynnwys y cwrs:

Uned 1 – Ymholiad Creadigol Personol (Blwyddyn 12)

Project/portffolio ymchwiliol, estynedig a chanlyniad/au yn seiliedig ar themâu a deunydd pwnc sydd yn bersonol ac yn ystyrlon i’r dysgwr. Rhaid cyfuno gwaith beirniadol, ymarferol a damcaniaethol.

Uned 2 – Ymchwiliad Personol (yn cynnwys dwy ran) (Blwyddyn 13)

Prif broject/portffolio ymchwiliol beirniadol, ymarferol, damcaniaethol a chanlyniad/au yn seiliedig ar themâu a deunydd pwnc sydd ag arwyddocâd personol. Elfen ysgrifennu estynedig, gallai gynnwys delweddau a thestunau, ac mae’n rhaid iddo ymwneud yn amlwg â’r gwaith ymarferol.

Uned 3 – Aseiniad wedi’i osod yn allanol (Blwyddyn 13)

Cyfnod paratoi, ac yna defnyddir y gwaith hwn wrth wireddu’r syniadau yn yr astudiaeth ddwys a manwl 15 awr (amodau dan oruchwyliaeth).

Gyrfaoedd posib:

Paratoad ardderchog ar gyfer bywyd, gan gynnwys gwaith ac addysg uwch a phellach. Dylunio mewnol, pensaerniaeth, dylunio theatr, ffotograffiaeth, animeddio, celfyddid gain, dylunio gemwaith, dylunio gwisgoedd, dylunio graffeg, dylunio cynnyrch, darlunio, cynllunio gwefan ac apiau.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://www.wjec.co.uk/qualifications/art-and-design/r-art-and-design-gce-asa-from-2015/