Cerddoriaeth
Anghenion Mynediad:
Disgwylir i chi ennill gradd uchel mewn TGAU yn ogystal â bod o safon gradd 5 o leiaf ar offeryn neu lais.
Beth yw Cerddoriaeth a beth fyddaf yn dysgu?
Mae’r fanyleb hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr astudio cerddoriaeth mewn ffordd integredig, gyda sgiliau perfformio, cyfansoddi a gwerthuso yn atgyfnerthu gwybodaeth a dealltwriaeth o elfennau, cyd-destunau ac iaith gerddorol.
Mae’r fanyleb hon hefyd yn galluogi dysgwyr i arbenigo naill ai mewn perfformio neu gyfansoddi am 8% ychwanegol o’r cymhwyster drwy ddarparu dau opsiwn yn Unedau 4 a 5 ar lefel U2. Fe fydd astudio cerddoriaeth ar y lefel yma yn dyst eich bod yn medru cyfuno nifer o sgiliau megis sgiliau academaidd, creadigol ac ymarferol yn ogystal â chael yr hunan ddisgyblaeth i ymarfer offeryn neu’r llais yn gyson er mwyn perfformio yn hyderus: sgiliau hynod bwysig ar gyfer gyrfa mewn unrhyw faes heriol.
Cynnwys y cwrs:
Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gerddoriaeth drwy gyfrwng pedwar maes astudio:
• Traddodiad Clasurol y Gorllewin - Cerddoriaeth Gorawl Grefyddol 1730-1800 gyda Requiem Mozart. Yna Requiem Verdi a cherddoriaeth grefyddol y cyfnod Rhamantaidd
• Theatr Gerdd - astudio 4 cyfansoddwr yn benodol - Cole Porter, Richard Rodgers, Claude-Michel Schönberg ac Andrew Lloyd Webber. Yna Theatr Gerdd Americanaidd gyda Stephen Sondheim a Stephen Schwarz.
• Cerddoriaeth yr Ugeinfed Ganrif - Argraffiadaeth gan astudio Reflet dans l’eau gan Debussy.
Gyrfaoedd posib:
Hanfodol os ydych am astudio’r pwnc yn y brifysgol neu am ddilyn cwrs perfformio mewn conservatoire, cam cyntaf at fod yn athro Cerddoriaeth, byd teledu, cyfoethogi sgiliau i gyfansoddi cerddoriaeth a llawer mwy.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.cbac.co.uk/qualifications/music/r-music-gce-asa-from-2016/