Skip to content ↓
Mae’r adran Gerddoriaeth yn ategu a chynnal traddodiadau cerddorol Cymru drwy ddatblygu nifer o weithgareddau cerddorol gan gynnwys partion canu a chorau amrywiol. Mae'r corau yn cystadlu  yn flynyddol ac yn cymryd rhan mewn perfformiadau llewyrchus trwy’r flwyddyn.  Cyfansoddi, perfformio, a datblygu ymwybyddiaeth o hanes a theori gerddorol gan ddatblygu terminoleg yw'r nôd. Drwy'r holl weithgareddau o fewn y dosbarth a thu hwnt rydym yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo cymuned yr ysgol ac yn lledaenu enw'r ysgol dros Gymru gyfan.
Adran:

Mrs C Williams - Pennaeth Adran

Miss B Morgan 

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Trydar: @CerddyFro
Gweithgareddau Ychwanegol:
  • Côr SATB 
  • Côr bechgyn (iau)
  • Côr bechgyn (hŷn)
  • Côr merched (iau)
  • Côr merched (hŷn)
  • Côr 7, 8 a 9
  • Ensemble Lleisiol
  • Deuawdau
  • Unawdau

“Os oes gennych ddiddordeb mewn cerddoriaeth, chwarae gwrando neu gyfansoddi mae’r cwrs yma’n ddelfrydol. Rwy’n hoffi bod yn greadigol wrth gyfansoddi yn codi hyder wrth berfformio sydd yn fy helpu gyda sgiliau sylfaenol ar gyfer y dyfodol.” Rhodri Lawton, Bl 12

CA3 (Blwyddyn 7-9)

 

Blwyddyn

Tymor

Thema

7

Hydref

Yr Elfennau cerddorol 

 

Gwanwyn

Offerynnau'r Gerddorfa

 

Haf

Yn Gaeth mewn Gem - cyfansoddi 

8

Hydref

Ostinato 

 

Gwanwyn

Cywair Mwyaf a Lleiaf 

 

Haf

Cerddoriaeth y Byd  

9

Hydref

Graddfeydd

 

Gwanwyn

y Felan 

 

Haf

 Cerddoriaeth bop a datblygu cordiau 

 

CA4 (Blwyddyn 10-11)

Amcanion Cyffredinol

Mae’r cwrs yma yn cynnig cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch mwynhad drwy berfformio, cyfansoddi a gwerthuso cerddoriaeth.

 

Manylion y Cwrs

Fe fydd y tri sgil, Perfformio, Cyfansoddi a Gwerthuso yn cael eu plethu o fewn 4 maes astudiaeth (gweler Uned 3):

 

Uned 1: Perfformio Arholiad: 35% o’r cymhwyster

Ydych chi’n mwynhau perfformio? Canu neu chwarae mewn band neu gerddorfa? Fe fyddwch yn cael y cyfle dros y ddwy flynedd i ddatblygu’ch sgiliau perfformio unigol ac ensemble. Rhaid perfformio lleiafswm o ddau ddarn, y mae’n rhaid i un ohonynt fod yn berfformiad ensemble.

Gall y darn araill naill ai fod yn ddarn unigol a/neu’n ensemble. Rhaid i un o’r darnau sy’n cael ei berfformio gysylltu â maes astudio o ddewis y dysgwr.

 

Uned 2: Cyfansoddi: Gwaith Cwrs: 35% o’r cymhwyster

Rhaid cyflwyno Dau gyfansoddiad; un ohonynt yn ymateb i friff y mae CBAC wedi’i osod. Bydd dysgwyr yn dewis un briff o ddewis o bedwar, pob un yn gysylltiedig â maes astudio gwahanol. Bydd y briffiau yn cael eu rhyddhau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi ym mlwyddyn academaidd sefyll yr asesiad. Cyfansoddiad rhydd yw’r ail gyfansoddiad y mae’r dysgwyr eu hunain yn gosod y briff ar ei gyfer.

 

Uned 3: Gwerthuso: Arholiad ysgrifenedig: 1 awr, 30% o’r cymhwyster

Fe fyddwch yn gwrando a thrafod amrywiaeth eang o gerddoriaeth sy’n deillio o’r 4 maes astudiaeth - o’r arddull Baroc i arddulliau cyfoes roc a pop. Arholiad gwrando yw dull asesu’r uned hon. Cyfanswm o wyth cwestiwn, dau gwestiwn ar bob un o’r pedwar maes astudio a nodwyd isod:

1. Ffurfiau a Dyfeisiau Cerddorol

2. Cerddoriaeth ar gyfer Ensemble

3. Cerddoriaeth Ffilm

4. Cerddoriaeth Boblogaidd

Dulliau Asesu

GWERTHUSO   

PERFFORMIO      

CYFANSODDI       

 

Arholiad gwrando ar CD

1 darn unigol & 1 darn grwp  

Cyflwyno 2 ddarn ar CD& gwerthusiad  

 

 

30%

35%

35%

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Arweinydd Pwnc: Mrs Catrin A Williams
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 40%
Gwaith cwrs a Perfformio: 60%

Anghenion Mynediad:

Disgwylir i chi ennill gradd uchel mewn TGAU yn ogystal â bod o safon gradd 5 o leiaf ar offeryn neu lais.

Beth yw Cerddoriaeth a beth fyddaf yn dysgu?

Mae’r fanyleb hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr astudio cerddoriaeth mewn ffordd integredig, gyda sgiliau perfformio, cyfansoddi a gwerthuso yn atgyfnerthu gwybodaeth a dealltwriaeth o elfennau, cyd-destunau ac iaith gerddorol.

Mae’r fanyleb hon hefyd yn galluogi dysgwyr i arbenigo naill ai mewn perfformio neu gyfansoddi am 8% ychwanegol o’r cymhwyster drwy ddarparu dau opsiwn yn Unedau 4 a 5 ar lefel U2. Fe fydd astudio cerddoriaeth ar y lefel yma yn dyst eich bod yn medru cyfuno nifer o sgiliau megis sgiliau academaidd, creadigol ac ymarferol yn ogystal â chael yr hunan ddisgyblaeth i ymarfer offeryn neu’r llais yn gyson er mwyn perfformio yn hyderus: sgiliau hynod bwysig ar gyfer gyrfa mewn unrhyw faes heriol.

Cynnwys y cwrs:

Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gerddoriaeth drwy gyfrwng pedwar maes astudio:

• Traddodiad Clasurol y Gorllewin - Cerddoriaeth Gorawl Grefyddol 1730-1800 gyda Requiem Mozart. Yna Requiem Verdi a cherddoriaeth grefyddol y cyfnod Rhamantaidd

• Theatr Gerdd - astudio 4 cyfansoddwr yn benodol - Cole Porter, Richard Rodgers, Claude-Michel Schönberg ac Andrew Lloyd Webber. Yna Theatr Gerdd Americanaidd gyda Stephen Sondheim a Stephen Schwarz.

• Cerddoriaeth yr Ugeinfed Ganrif - Argraffiadaeth gan astudio Reflet dans l’eau gan Debussy.

Gyrfaoedd posib:

Hanfodol os ydych am astudio’r pwnc yn y brifysgol neu am ddilyn cwrs perfformio mewn conservatoire, cam cyntaf at fod yn athro Cerddoriaeth, byd teledu, cyfoethogi sgiliau i gyfansoddi cerddoriaeth a llawer mwy.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://www.cbac.co.uk/qualifications/music/r-music-gce-asa-from-2016/