Skip to content ↓
Mae Gwyddoniaeth yn ein galluogi i ddeall y byd o’n hamgylch.  Bydd disgyblion yn dysgu am gelloedd, elfennau a chyfansoddion, asidau, cylchedau trydan a gweld enghraifft o ddarganfyddiad lleol: Deinosor Sili.  Bydd Blwyddyn 7 hyd yn oed yn cael y cyfle i ystyried sut gallent oroesi ar ynys bellennig wrth iddynt gymhwyso eu gwybodaeth i ddatrys problemau.
Adran:

Miss C Walters - Pennaeth Gwyddoniaeth a Cemeg

Mr D Davies - Pennaeth Ffiseg

Mrs L Downey 

Miss L Elena 

Mr J Evans 

Mrs A Jones 

Mr O Jones 

Miss C Ormerod - Pennaeth Bioleg

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Trydar: @gwyddygbm
Gweithgareddau Ychwanegol:
  • Clwb Gwyddoniaeth
  • Clwb STEM
  • Gweithdy DNA 
  • Gwyddoniaeth mewn Iechyd (live)
  • Her Gwyddorau Bywyd
  • Her tîm Peiriannwyr
  • Top of the Bench Royal Society of Chemistry
  • Her Faraday 

“Mae Cemeg yn cyfuno yr academaidd a’r ymarferol ac yn agor drysau i sawl maes, nid yn unig Gwyddoniaeth Bur, ond hefyd i feysydd fel meddygaeth a deintyddiaeth. Mae hefyd yn ddisgyblaeth uchel ei barch a heriol.”

CA4 (Blwyddyn 10-11)

Bydd yr Adran yn gosod y disgyblion mewn i setiau yn ôl perfformiad a gallu. Cynigir tri chwrs TGAU, gyda phob set yn dilyn y cwrs mwyaf addas iddynt.

 

Cwrs Gwyddoniaeth

Nifer y TGAU a enillir ar ddiwedd y cwrs

Gwyddorau ar wahân (Bioleg, Cemeg a Ffiseg)

3

Gwyddoniaeth (Dwyradd) TGAU

2

Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gradd Unigol)

1

 

Er mwyn cael astudio un o’r gwyddorau at Safon Uwch, bydd angen i ddisgyblion gael gradd ‘B’ neu’n well yn y wyddor hynny. Gwyddorau ar wahân (‘Gwyddoniaeth Driphlyg’) Mae’r tair gwyddor (Bioleg, Cemeg, Ffiseg) yn cael eu hasesu’n annibynnol o’i gilydd gyda gradd wahanol yn cael ei roi i bob un o’r tair.

 

Arholiad allanol ysgrifenedig 90%

Pryd?

Asesiad o dan reolaeth (ymarferol) 10%

Cemeg 1 Bioleg 1 Ffiseg 1 80 marc yr un 1awr 45 mun y papur

Diwedd Blwyddyn 10

30 marc yr un: un asesiad Cemeg un asesiad Bioleg un asesiad Ffiseg

Cemeg 2 Bioleg 2 Ffiseg 2 80 marc yr un 1awr 45 mun y papur

Diwedd Blwyddyn 11

 

Mae pob arholiad allanol ar gael mewn dwy haen: Haen Sylfaenol (sy’n cwmpasu graddau “C” i “G”) a Haen Uwch (sy’n cwmpasu graddau “A*” i “E”). Mae’r asesiadau o dan reolaeth (ymarferol) yr un haen i bawb. Mae marc da gyda’r asesiadau ymarferol yn caniatáu i ddisgyblion sy’n sefyll Haen Sylfaenol ennill gradd “B” ar yr amod bod eu perfformiadau yn y papur ysgrifenedig yn dda.

 

Gwyddoniaeth (Dwyradd) TGAU Mae’r tair gwyddor (Bioleg, Cemeg, Ffiseg) yn cael eu hasesu mewn gwahanol arholiadau, ond mae marciau bob asesiad yn cael eu cyfuno i roi dwy radd derfynol ar gyfer y pwnc. Mae yna lai o gynnwys i’r cwrs o’i gymharu â’r gwyddorau ar wahân. Serch hyn mae modd astudio’r pwnc at Safon Uwch os yw’r disgybl yn sicrhau gradd ‘B’ neu’n well yn y wyddor hynny.

Arholiad allanol ysgrifenedig 90%

Pryd?

Asesiad o dan reolaeth (ymarferol) 10%

Cemeg 1 Bioleg 1 Ffiseg 1 60 marc yr un 1awr 15 mun y papur

Diwedd Blwyddyn 10

Bydd angen cwblhau dau o’r asesiadau isod: un asesiad Cemeg (30 marc) un asesiad Bioleg (30 marc) un asesiad Ffiseg (30 marc)

Cemeg 2 Bioleg 2 Ffiseg 2 60 marc yr un 1awr 15 mun y papur

Diwedd Blwyddyn 11

 

Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gradd Unigol) Mae’r tair gwyddor (Bioleg, Cemeg a Ffiseg) yn cael eu dysgu ar y cyd mewn dwy uned wahanol. Golygir hyn bod Uned 1 a 2 yn cynnwys gwaith Cemeg, Bioleg a Ffiseg. Mae’r cwrs yma yn cynnig mwy o gyfleoedd i wneud gwaith ymarferol, gyda 30% o’r marc terfynol yn cael ei roi am asesiadau ymarferol. Cyfunir marc y pedwar uned er mwyn rhoi gradd derfynol.

 

Arholiad

Pryd?

Uned 1 – Gwyddoniaeth yn y byd modern 75 marc 1 awr 30 munud.

Arholiad allanol ar ddiwedd Blwyddyn 10

Uned 2 – Gwyddoniaeth i gefnogi ein ffordd o fyw 75 marc 1 awr 30 munud.

Arholiad allanol ar ddiwedd Blwyddyn 11

Uned 3 – Asesiad seiliedig ar dasg 60 marc

Arholiad ymarferol Tachwedd - Rhagfyr Blwyddyn 11

Uned 4 – Asesiad ymarferol 30 marc

Arholiad ymarferol Ionawr - Chwefror Blwyddyn 11

 

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Arweinydd: Miss C Walters
Bwrdd Arholi: CBAC | WJEC
Arholiadau: 100%
Gwaith cwrs: 0%

Anghenion Mynediad:

Dylech lwyddo i ennill gradd B neu’n uwch mewn Cemeg TGAU. Dylech fod wedi sefyll papurau Haen Uwch.

Beth yw Cemeg?

Cemeg yw’r astudiaeth o fater, ei briodweddau, sut a pham y mae sylweddau’n cyfuno neu ffurfio sylweddau eraill. Mae llawer o bobl yn meddwl am gemegwyr fel gwyddonwyr â chôt wen yn cymysgu hylifau rhyfedd mewn labordy, ond y gwir yw ein bod i gyd yn gemegwyr. Mae deall cysyniadau sylfaenol cemeg yn bwysig i bron pob proffesiwn. Mae cemeg yn rhan o bopeth yn ein bywydau. Mae pob deunydd sy’n bodoli yn fater — hyd yn oed ein cyrff ein hunain. Mae cemeg yn ymwneud â phopeth a wnawn, o dyfu a choginio bwyd i lanhau ein cartrefi a’n cyrff i lansio gwennol ofod. Cemeg yw un o’r gwyddorau ffisegol sy’n ein helpu i ddisgrifio ac egluro ein byd.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Cemeg?

Drwy astudio’r cwrs Cemeg byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o gysyniadau cemegol a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd newydd a newidiol. Byddwch yn gwneud cysylltiadau rhwng theori ac arbrofion gan werthfawrogi cyfraniadau Cemeg i’r gymdeithas a edrych ar ffyrdd cyfrifol o ddefnyddio gwybodaeth a thystiolaeth wyddonol. Rhan bwysig o’r cwrs yw dod â gwybodaeth at ei gilydd am ffyrdd y mae gwahanol feysydd Cemeg yn cysylltu â’i gilydd. Bydd y gwersi yn cynnwys cyfnodau dysgu a thrafodaeth dosbarth a gwaith ymarferol, cyflwyniadau gan ddisgyblion a gwaith darllen ac astudio unigol. Cewch eich hannog i ddefnyddio amrediad eang o adnoddau gan gynnwys gwerslyfrau’r ysgol, cylchgronau a meddalwedd perthnasol yn ogystal â’r cyfoeth o wybodaeth sydd i’w gael ar y rhyngrwyd.

Cynnwys y cwrs:

Blwyddyn 12 (Uwch Gyfrannol)

Uned 1 - Iaith Cemeg, Adeiledd Mater ac Adweithiau Syml

Uned 2 - Egni, Cyfradd a Chemeg Cyfansoddion Carbon

Blwyddyn 13 (Safon Uwch) Y ddwy uned uchod yn ogystal â:

Uned 3 - Cemeg Ffisegol ac Anorganig

Uned 4 - Cemeg Organig a Dadansoddi

Uned 5 - Arholiad ymarferol

Gyrfaoedd posib:

Mae llwyddiant Safon Uwch yn hanfodol bwysig os ydych am barhau ag astudiaeth bellach mewn Cemeg neu faes fel meddygaeth, fferylliaeth neu un o’r gwyddorau biolegol. Bydd Safon UG/U yn fanteisiol iawn i’r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn unrhyw faes gwyddonol e.e. peirianneg, yr amgylchedd neu daeareg. Mae’r amrediad o sgiliau byddwch yn datblygu drwy ddilyn y cwrs yma yn rhai fedrwch drosglwyddo i bob math o swyddi ac mae canran uchel o bobl â chymwysterau mewn Cemeg yn symud ymlaen i weithio ym meysydd bancio, cyfrifyddiaeth, rheolaeth busnes a’r sector technoleg gwybodaeth.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

 https://www.cbac.co.uk/qualifications/science/as-a-level/chemistry-as-a-level-2015/?language_id=2