Skip to content ↓

Croeso i dudalennau’r Chweched dosbarth!

Un o gymunedau mwyaf blaengar a byrlymus yr ysgol yw'r Chweched dosbarth a'i digwyddiadau.
Mae yna ystod eang o wahanol bynciau ar gael i'w astudio yn YGBM gydag athrawon cefnogol ac angerddol i alluogi ein disgyblion i gyrraedd y cyrhaeddiad uchaf posib.

Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’

Mae ein Chweched yn brysur yn helpu rhedeg clybiau a digwyddiadau; mentora disgyblion iau'r ysgol; a threfnu a chynllunio gweithgareddau cymunedol ac elusennol.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen i gyflwyno ardal newydd y Chweched dosbarth gan gynnwys lolfa, ardal i astudio a llyfrgell a fyddai'n galluogi iddynt weithio ac ymlacio yn yr amgylchedd gorau posib.

Mr Owain Rowlands a Mrs Bethan Morgan
"Rydym yn falch iawn o'n Chweched Dosbarth yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg a chyflawniadau rhagorol ein myfyrwyr"

Fel y gwyddoch ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’ yw arwyddair yr ysgol. Credwn yn gryf mai’r arwyddair hwn yw gwraidd ein Chweched Dosbarth. Fe blennir yr ethos uchelgeisiol hwn wrth i bob disgybl gyrraedd yr ysgol ym mlwyddyn 7. Ein nod ni yw gwireddu hyn yn ein Chweched Dosbarth, wrth i’n myfyrwyr gyrraedd penllanw eu taith yma, drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae perthyn i ethos ofalgar yr ysgol yn parhau yn y Chweched drwy ein hadnabyddiaeth gref o bob disgybl. Mae hyn yn ein galluogi i gynghori ein myfyrwyr yn y broses o bontio i’r Chweched yn ogystal â chynnig y cymorth bugeiliol rhagorol yn ystod y ddwy flynedd. Mae lles pob disgybl yn flaenoriaeth i ni wrth iddynt gamu i’r cyfnod newydd, cyffrous hwn. Caiff pob myfyriwr arweiniad dyddiol gan Diwtor Personol profiadol sy’n rhan o dîm eang o gefnogaeth. Fel Penaethiaid y Chweched, ymfalchÏwn yn ein cyfathrebu effeithiol a chyson rhwng yr ysgol a’r cartref sy’n hanfodol wrth i ni ofalu am les a chynydd academaidd pob disgybl o dan ein gofal. Cynigwn ystod eang o gyrsiau yn y Chweched er mwyn teilwra ar gyfer ein disgyblion sy’n rhan o gymuned yr ysgol. Hyderwn ein bod yn cynnig cwricwlwm eang a chaniateïr i bob myfyriwr gyrraedd pen eu taith boed hynny’n fyd gwaith, prentisiaeth neu fywyd prifysgol. Mae ein rhaglen bontio i’r Chweched yn sicrhau bod pob disgybl ym mlwyddyn 11 wedi cynllunio’i llwybr personol hwy ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn falch iawn o gefnogaeth ein disgyblion presennol yn y Chweched dosbarth, a’u lleisiau hwy sy’n ddolen gyswllt bwysig i Flwyddyn 11 wrth iddynt gamu i addysg yn y Chweched. Disgwyliwn i bob myfyriwr ddangos safonau uchel o Gymreictod, parch a pharodrwydd er mwyn llwyddo yn eu hastudiaethau. Mae bod yn rhan o gymuned y Chweched yn fraint ac yn gyfle i fod yn fodel rôl i gymuned yr ysgol gyfan.

Datblygir ein myfyrwyr i fod yn unigolion iach, hyderus ac uchelgeisiol sy’n rhan allweddol o fywd y Cynradd hyd at yr Uwchradd. Mae pob disgybl yn elwa’n fawr o’r ddarpariaeth eang o brofiadau a gynigir iddynt fel aelod hŷn yr ysgol. Mae Pwyllgorau’r Chweched Dosbarth yn gyfle gwych i arwain, cyd-weithio a mwynhau bod yn rhan o hyrwyddo elfennau o Gymreictod, Pontio, Cydraddoleb, Iechyd a Lles, Eco, Elusennol a Chyfathrebu. Yn ogystal, mae plant iau’r ysgol yn buddio’n fawr o gefnogaeth ein Swyddogion Llythrennedd, Mentoriaid Mathemateg, Mentoriaid Lles, Swyddogion Teithiau a llawer mwy. Byddant yn ymgymryd â’r rolau yma yn eu hamser gwirfoddol gan gadw at safonau uchel o barch. Atgyfnerthir hyn oll yn ein Cytundeb i’r Chweched Dosbarth sy’n sicrhau safonau o’r radd flaenaf. Mae parch, prydlondeb a pharodrwydd yn rhan allweddol o lwyddiant pob unigolyn yn y Chweched sy’n rhan annatod o daith disgybl yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Anelwn ein myfyrwyr at y copa, wrth arwain a chefnogi eraill ar hyd eu taith i wynebu heriau’r dyfodol yn hyderus a’n annibynnol.

 

 

 

 

Dilynwch y ddolen isod i weld copi o brosbectws y Chweched