Skip to content ↓

Sut mae cynnydd eich plentyn yn cael ei asesu?


Mae gan bob pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ei set ei hun o dargedau ymestynnol sy’n cynnwys cyfres o gamau, neu lefelau, ar raddfa genedlaethol gyffredin.

Mae’r raddfa hon, sy’n symud o lefelau 1 i 8, yn dangos sut mae’r pynciau’n mynd yn fwy anodd wrth i’r plant fynd yn hŷn, ac mae’n cynnig nodau clir i anelu atynt.  Mae hefyd yn fodd i athrawon gynllunio gwersi yn ôl oedran a gallu, ac yn helpu i fesur cynnydd.

Yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg bydd pob athro yn darparu asesiad o waith dosbarth/cwrs pob disgybl dair gwaith y flwyddyn gan gynnwys arholiadau’r Haf.

Bydd yr asesiadau yma yn cael eu cyflwyno i chi ar ffurf adroddiad interim.

Nid yw’r lefel a gyflwynir ar ôl pob asesiad yn golygu mai dyma fydd safon y gwaith ar ddiwedd y Cyfnod Allweddol ond yn hytrach mae’n rhoi cerrig milltir i chi ar ddatblygiad gwaith eich mab/merch yn ystod y tair blynedd.  Fe gewch adroddiad llawn gyda sylwadau’r athrawon pwnc unwaith y flwyddyn yn ogystal.

Yn yr adroddiadau fe gewch wybod beth yw targedau realistig ac uchelgeisiol pob athro ar gyfer eich plentyn.  Gall y targedau yma newid wrth i safon gwaith eich plentyn ddatblygu ond fe rydd gyfle i chi fesur perfformiad eich plentyn yn erbyn ei b/photensial.