Skip to content ↓
Mae'r cwrs Dylunio a Thechnoleg yn cynnig cyfle unigryw yn y cwricwlwm i ddysgwyr adnabod a datrys problemau drwy weithio trwy'r 'Broses Dylunio' i ymateb briff dylunio a gweithgynhyrchu cynhyrchion creadigol. Mi fydd hyn yn galluogi dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 i weithio'n greadigol wrth ddylunio a gwneud, ac i ddefnyddio arbenigedd technegol ac ymarferol er mwyn datblygu gwerthfawrogiad o bwysigrwydd creadigrwydd ac arloesi ar arfer dylunio da a hefyd ymgysylltu'n weithredol â phrosesau dylunio a thechnoleg sy'n meithrin a datblygu dysgwyr mwy annibynnol yn yr unfed ganrif ar hugain.
Yn ystod y prosiectau mi fydd dysgwyr yn gweithio ei ffordd trwy ffolio o waith dylunio sy'n arwain at greu cynhyrchion creadigol sy'n herio unigolion a defnyddio amrywiaeth o brosesau ymarferol. Cawn gyfleoedd i ehangu ei sgiliau dylunio trwy arlunio neu fodelu prototeipiau o'i wahanol gysyniadau dylunio. Mi fydd disgyblion yn cael y cyfle i ddefnyddio gwahanol feddalwedd CAD (Computer Aided Design) fel 2D Design ar broses CAM (Computer Aided Manufacture) i greu cynhyrchion mewn amgylchedd gweithdai trwy ddefnyddio'r cyfleusterau bloc dylunio o'r radd flaenaf yr adran.
Adran:

Mr M Davies 

Mrs S Williams 

Mr D Edwards

Mrs L Bowen

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Gweithgareddau Ychwanegol:
  • Clwb amser cinio
  • CogUrdd

“Mae dewis Dylunio Cynnyrch yn un buddiol iawn am eich dyfodol. Mae’r cwrs yn hybu creadigrwydd a gwaith angerddol iawn. Dewisais Ddylunio Cynnyrch i gael siawns i arbrofi gyda dulliau gwahanol o weithio. Mae amryw o waith ysgrifennu, dylunio cyfrifiadurol, datrys problemau a gweithio gyda’ch dwylo. Yn ogystal mae cyfleoedd i ymweld â diwydiant a gweld prosesau creu modern.”

CA3 (Blwyddyn 7-9)

 

Blwyddyn

Tymor

Themau

7

Hydref

Prosiect Taclusydd Desg

 

Gwanwyn

Deinosoriaid CAD/CAM

 

Haf

Sgiliau Graffeg/Meddalwedd ddylunio

8

Hydref

Golau Nos

 

Gwanwyn

Cadw MI Gei

 

Haf

Graffeg a Sgiliau CAD

9

Hydref

Mwyhadur di-bwêr

 

Gwanwyn

Daliwr Clustffonau

 

Haf

 Sgiliau Bwyd - Cyfleus, Cyflym a Chytbwys

 

CA4 (Blwyddyn 10-11)

Nod

Mae’r cymhwyster TGAU hwn mewn Dylunio a Thechnoleg yn cynnig cyfle unigryw yn y cwricwlwm i ddysgwyr adnabod a datrys problemau go iawn trwy ddylunio a gwneud cynhyrchion. Trwy astudio TGAU Dylunio a Thechnoleg, bydd dysgwyr yn barod i gymryd rhan yn hyderus a llwyddiannus mewn byd sy’n fwyfwy technolegol. Fe fyddwch yn gweithio gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau er mwyn dylunio a gwneud cynhyrchion ymarferol sy’n cwrdd ag anghenion sefyllfaoedd dylunio realistig.

Dyma gyfle i ddatblygu’r wybodaeth a dealltwriaeth i’ch galluogi i ddilyn gyrfa fel dylunydd neu beiriannydd. A ydych chi’n mwynhau :

• creu eich cynhyrchion eich hunan?

• dylunio o’r syniad gwreiddiol hyd at ddatrysiad terfynol?

• gweithio gyda meddalwedd dylunio fel ‘Adobe Illustrator’, ‘Google Sketch Up’ a ‘2D Design’?

• gweithio gydag offer dylunio, offer llaw, peiriannau ac offer cyfrifiadurol?

 

Os felly, Dylunio a Thechnoleg yw’r dewis i chi!

 

Manylion y cwrs

Mae’r fanyleb yn galluogi dysgwyr i weithio’n greadigol wrth ddylunio a gwneud, ac i weithredu arbenigedd technegol ac ymarferol.

Yn ystod Blwyddyn 10 fe fyddwch yn mynd i’r afael â chyfres o brosiectau a thasgau byr er mwyn estyn eich dealltwriaeth a phrofiad ym mhrif-feysydd y cwrs, sef:

• dylunio a gwneud cynhyrchion graffigol a thridimensiwm

• gweithio gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau fel plastigion, metel a phren

• dylunio â chymorth cyfrifiadaur a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur.

Fe fyddwch yn dylunio a gwneud eich cynhyrchion eich hunan yn ogystal â defnyddio CAD/CAM er mwyn modelu a gweithgynhyrchu cynhyrchion o safon. Fe fyddwch yn ymestyn eich gwybodaeth a gallu i ddefnyddio meddalwedd bwrpasol fel ‘Adobe Illustrator’, ‘Google Sketch Up’ a ‘2D Design’.

 

Y dasg asesu Deunyddiau Gwrthiannol fydd prif ffocws blwyddyn 11, sef cynnyrch ymarferol a phortffolio dylunio i’w gyflwyno ar bapur neu drwy ddefnydd o Dechnoleg Gwybodaeth. Gall themau addas ar gyfer datblygu cynnyrch gynnwys graffigwaith, gemwaith, dyluniadau dodrefn, gemau addysgiadol, cymhorthion ar gyfer yr anabl neu systemau storio.

 

Asesu

Bydd y cynllun asesu yn cynnwys dwy gydran:

Uned 1: Dylunio a Thechnoleg yn yr 21ain Ganrif sef arholiad ysgrifenedig 2 awr o hyd, sydd yn 50% o’r cymhwyster.

Cymysgedd o gwestiynau atebion byr, strwythuredig ac ysgrifennu estynedig sy’n asesu gwybodaeth a dealltwriaeth ymgeiswyr am ddylunio cynnyrch.

Uned 2: Tasg Dylunio a Gwneud estynedig i’w cwblhau o fewn tua 35 awr sydd hefyd yn 50% o’r cymhwyster.

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Arweinydd Pwnc: Mr Matthew Davies
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 50%
Gwaith cwrs: 50%

Anghenion Mynediad:

Disgwylir i ddisgyblion sydd yn dewis y cwrs ddangos dychymyg, dyfeisgarwch a pharodrwydd i weithio’n annibynnol. Gan amlaf y bydd disgyblion fod wedi ennill gradd B neu’n uwch mewn Dylunio a Thechnoleg (Cynhyrchion Graffig neu Ddeunyddiau Gwrthiannol). Fe fydd addasrwydd disgyblion nad ydynt wedi dilyn y cwrs TGAU (ond sydd wedi ennill o leiaf 5 TGAU gradd B neu’n uwch) yn cael ei ystyried ar lefel unigol.

Beth yw Dylunio Cynnyrch?

Mae cwrs mewn Dylunio a Thechnoleg yn cynnig cyfle unigryw yn y cwricwlwm i chi ddarganfod a datrys problemau go iawn trwy ddylunio a gwneud cynhyrchion mewn amrywiaeth o eang o gyd-destunau yn ymwneud â’ch diddordebau personol neu’ch dewis o yrfa.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Dylunio Cynnyrch?

Mae Dylunio a Thechnoleg yn bwnc ysbrydoledig, trwyadl ac ymarferol. Mae’r cwrs yn annog dysgwyr i ddefnyddio creadigrwydd a dychymyg wrth ddefnyddio prosesu dylunio i ddatblygu ac addasu dyluniadau, ac i ddylunio a gwneud prototeipiau sy’n datrys problemau’r byd real, ystyried eu hanghenion, dymuniadau, dyheadau a gwerthoedd eu hunain ac eraill.

Cynnwys y cwrs:

Mae’r arholiad yn cynnwys cymysgedd o gwestiynau ysgrifennu strwythuredig ac estynedig sy’n asesu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o:

• egwyddorion technegol

• egwyddorion dylunio a gwneud ynghyd â’u gallu i:

• ddadansoddi a gwerthuso penderfyniadau dylunio a materion ehangach mewn dylunio a thechnoleg.

Egwyddorion technegol craidd – Gweithgynhyrchu, Arloesedd, Addasrwydd at ddiben, Dylunio digidol a Gweithgynhyrchu digidol, Arferion gweithio’n ddiogel.

Egwyddorion technegol manwl – nodweddion a phriodweddau gweithiol deunyddiau, gorffeniad arwyneb, deunyddiau smart a modern, prosesau gweithgynhyrchu.

Egwyddorion craidd dylunio a gwneud – Theori dylunio, mudiadau dylunio hanesyddol. Ffactorau cymdeithasol, moesol a moesegol mewn dylunio cynnyrch.

Dadansoddi a gwerthuso. Offer arbenigll, prosesau ac offer.

Gyrfaoedd posib

Targedir y cwrs at ddisgyblion sydd yn bwriadu dilyn cyrsiau Addysg Bellach neu yrfa mewn Dylunio a Thechnoleg neu feysydd cysylltiedig fel Dylunio Cynnyrch, Peirianneg, Gweithgynhyrchu, Dylunio Graffigol, Dylunio Mewnol, Tecstilau neu Bensaernïaeth.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://www.wjec.co.uk/qualifications/design-and-technology/r-design-and-technology-gce-2017/