Skip to content ↓

Mae egwyddorion sylfaenol y Polisi Diogelu Plant yn sicrhau bod iechyd, diogelwch a lles ein holl blant o'r pwys pennaf i'r holl oedolion y maent yn gweithio yn ein hysgol.  Mae gan ein plant/ pobl ifanc yr hawl i gael eu diogelu, beth bynnag fo eu hoedran, eu rhyw, eu hil, eu diwylliant, eu crefydd neu eu hanabledd.  Mae ganddynt yr hawl i fod yn ddiogel yn ein hysgol.  Mae gan yr holl staff gyfrifoldeb cyfartal dros weithredu ynghylch unrhyw amheuaeth neu ddatgeliad a allai awgrymu bod plentyn mewn perygl o ddioddef niwed.   Mae deddfwriaeth yn sail ar gyfer y Polisi hwn a Pholisïau Diogelu ac Amddiffyn Plant Bro Morgannwg.  Felly, mae'r canlynol yn cyd-fynd gyda Pholisi Bro Morgannwg: 
 
Ein nodau yw:

  • darparu amgylchedd diogel i blant/pobl ifanc ddysgu ynddo;
  • pennu pa gamau y bydd modd i'r ysgol eu cymryd er mwyn sicrhau bod plant/pobl ifanc yn ddiogel yn y cartref yn ogystal â'r ysgol;
  • codi ymwybyddiaeth yr holl staff o'r materion hyn, a diffinio'u rolau a'u cyfrifoldebau wrth adrodd am achosion posibl o gamdriniaeth;
  • nodi plant/pobl ifanc y maent yn dioddef niwed sylweddol neu y maent yn debygol o ddioddef niwed sylweddol;
  • sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng yr holl staff ynghylch materion yn ymwneud ag amddiffyn plant; 
  • nodi'r gweithdrefnau cywir ar gyfer y rhai y maent yn dod ar draws unrhyw fater yn ymwneud ag amddiffyn plant. 

 
Nid yw ‘Diogelu' yn ymwneud â diogelu plant/pobl ifanc rhag niwed bwriadol yn unig.  Mae'n cynnwys materion i ysgolion, gan gynnwys:

  • iechyd a diogelwch disgyblion
  • bwlio
  • camdriniaeth hiliol
  • aflonyddu a gwahaniaethu
  • defnyddio ymyrraeth gorfforol / trin diogel
  • bodloni anghenion disgyblion y mae ganddynt gyflyrau meddygol
  • darparu cymorth cyntaf
  • camddefnyddio alcohol a chyffuriau 
  • ymweliadau addysgol
  • addysg rhyw a pherthnasoedd
  • diogelwch ar y rhyngrwyd
  • materion y gallent fod yn benodol i ardal neu boblogaeth leol e.e.  gweithgarwch criwiau
  • diogelwch ysgol
  • lles dysgwyr ar leoliadau galwedigaethol estynedig 

 
Yn yr ysgol, mae gennym bolisïau ar wahân y byddwn yn eu defnyddio er mwyn ceisio rhoi sylw i nifer o'r meysydd uchod.  Mae gennym Bolisi Iechyd a Diogelwch sy'n rhoi sylw i nifer o'r meysydd gan gynnwys diogelwch, lles disgyblion ac ymweliadau addysgol;  yn ogystal, mae gennym Bolisi Gwrth-fwlio ar wahân, Polisi Cydraddoldeb Hiliol a Pholisi eDdiogelwch.   
 
 
Mae’r ysgol yn cydnabod ei chyfraniad tuag at Diogelu Plant a Phobl Ifanc yn llawn.   Mae'n polisi yn cynnwys tair prif elfen:- 
 
1. Atal trwy gyfrwng y cymorth addysgu a bugeiliol a gynigir i blant/pobl ifanc; 
 
2. Gweithdrefnau y maent yn amlinellu'r disgwyliadau o bob parti yn eglur o fewn agenda Ddiogelu, er mwyn nodi ac adrodd achosion o gamdriniaeth, pryder a neu o fod yn agored i niwed, neu achosion y ceir amheuaeth o'r elfennau hyn.  O ganlyniad i'n cyswllt gyda phlant/pobl ifanc o ddydd i ddydd, mae staff ysgol mewn sefyllfa dda i arsylwi arwyddion allanol camdriniaeth;  a 
 
3. Chymorth ar gyfer plant/pobl ifanc y gallent fod wedi cael eu cam-drin, y maent yn peri pryder neu'n agored i niwed. 
 
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r holl staff a'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn yr ysgol.  Yn ogystal, mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r holl weithwyr achlysurol, gwirfoddolwyr, contractwyr a llywodraethwyr.  Rhaid i'r holl oedolion ar safle'r ysgol fod yn ymwybodol o Bolisi Diogelu yr ysgol, oherwydd y gall unrhyw oedolyn, yn ogystal ag athrawon, gyflawni rôl y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer datgeliad gan blentyn/person ifanc. 
 
Yn yr ysgol hon, y Pennaeth sy'n meddu ar y cyfrifoldeb cyffredinol dros Ddiogelu.  Y Swyddog Uwch Penodol dros Ddiogelu yn y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau yw David Davies (01446 709184).  
 
Dyma enwau'r swyddogion diogelu allweddol yn yr ysgol:

  • Y Person Uwch Dynodedig dros Amddiffyn Plant – Mrs Nia Rowlands
  • Y Dirprwy Uwch Dynodedig dros Amddiffyn Plant – Mrs Laura Downey
  • Y Person Uwch Dynodedig yn y Cynradd – Miss Ffion Williams 
  • Y Llywodraethwr Cyswllt dros Amddiffyn Plant – Mrs Anne-Louise Llywellyn-Morgan