Skip to content ↓
Mae’r pwnc deinamig  a chyffrous hwn  yn codi'r llen ar fyd o brofiadau wrth i’n disgyblion droi eu dwylo at greu, arbrofi ac arloesi. Yn ystod CA3 mae'r disgyblion yn mentro i fyd theatr, ffilm, teledu a gemau digidol. Cawn gyfleoedd i herio ac arbrofi'n ymarferol ac yn  gorfforol trwy ddyfeisio, byrfyfyrio, sgriptio a pherfformio nid yn unig i gynulleidfaoedd byw ond yn ddigidol yn fyd-eang ar ein gwefan cyfadran. Nid yn unig eu sgiliau perfformio maent yn eu datblygu trwy ein cwricwlwm heriol ond yn all gyrsiol hefyd trwy ein clybiau Ffilm a Drama, ymweliadau theatr, seminarau, gwersi meistr, perfformiadau cyhoeddus a chystadleuthau cenedlaethol a rhyngwladol. Cewn gyfleoedd i ymchwilio ac i werthuso'n ddadansoddol ystod eang o genres o  Bantomeim ac Operâu sebon i Gemau Digidol a Dramau Trosedd. Mae pawb yn dwlu ar ein ymweliad blynyddol i'r Pantomeim ac wrth gwrs ein teithiau i Sioeau  Llundain.
Edrychwn ymlaen yn eiddgar at yr amser pan gewn ymarfer a pherfformio dramau byw a’r sioeau cerdd sydd wedi, yn y gorffennol, cynnwys ‘Les Miserables’ a ‘We Will Rock You’.
Adran:

Miss N Tudor - Pennaeth Adran

Mrs R Lloyd 

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Trydar: @YgbmDrama

“Mae gwersi drama Chweched y Fro wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Wrth fod yn ran o gynhyrchiadau’r ysgol megis y Sioeau Cerdd a’r Cyngherddau Nadolig dwi wedi ennyn sgiliau a phrofiadau fydd yn aros gyda mi am byth. Mae’r Adran Ddrama yn cynnig profiadau a phosibiliadau lu i ni fel disgyblion y Chweched a dwi wedi elwa’n fawr o hynny mewn sawl ffordd. Mae’r athrawon bob amser wedi bod yn gefnogol ac wedi sicrhau ein bod ni’n gweithio at ein llawn potensial a dwi’n ddiolchgar iawn am hynny. Rydw i wedi mwynhau cael bod yn rhan o gymdeithas yr Adran Ddrama yn Ysgol Y Fro ac yn gobeithio bydd disgyblion y dyfodol yn cael yr un boddhad.”

Begw Rowlands

Gweithgareddau Ychwanegol:
  • Tripiau i'r Theatr
  • Clwb Drama

CA3 (Blwyddyn 7-9)

 

Blwyddyn

Tymor

Themau

7

Hydref

Pwy ydw i? Pantomeim

 

Gwanwyn

Yn gaeth yn y gem

 

Haf

Breuddwyd Noswyl Ifan - Shaespeare

8

Hydref

Opera Sebon

 

Gwanwyn

Theatr Grotowski

 

Haf

Theatr mewn Addysg

9

Hydref

Trychineb Hillsborough – mewn arddull Theatr mewn Addysg

 

Gwanwyn

Drama’r Drosedd

 

Haf

Blasu’r Cyfryngau

 

CA4 (Blwyddyn 10-11)

Amcanion y Cwrs

Bydd dilyn cwrs Drama yn datblygu’r elfennau canlynol yn yr ymgeiswyr:

a) Y gallu i ddeall profiadau sylfaenol o gymryd rhan, a llunio rhan, trwy waith grŵp.

b) Dealltwriaeth o’r elfennau hynny sy’n cyfrannu tuag at effaith gyfan cyflwyniad dramatig.

c) Gwerthfawrogiad o lenyddiaeth ddramatig fel deunydd crai sy’n sail i berfformiad.

ch) Mwynhad a gwerthfawrogiad gwybodus o gyflwyniadau dramatig yn y Theatr a chyfryngau eraill

 

Beth a ddisgwylir yn yr arholiad

Disgwylir i’r ymgeiswyr arddangos eu gallu i:

a) Gydweithio ag eraill i gyflwyno golygfa o ddrama

b) Pwyso a mesur eu gwaith ymarferol eu hunain ynghyd â gwaith ymarferol disgyblion eraill

c) Cynnig ymateb personol i gyflwyniadau dramatig

ch) Deall nodweddion dramatig y dramâu a ddewisir i’w hastudio

 

Cynnwys:

Y mae’r maes llafur Drama yn cynnwys amrediad o waith ymarferol ac astudiaeth o destunau drama dewisedig. Yn ychwanegol at hynny, y mae ymweld â theatrau a chymryd diddordeb byw ym myd y Ddrama yn angenrheidiol i ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o berfformiad.

Asesiad

Uned 1 : Dyfeisio Theatr (40%, 60 marc)

Wedi’i asesu’n fewnol a’i safoni’n allanol gan CBAC Gall dysgwyr berfformio neu ddylunio;

• Perfformiad wedi’i ddyfeisio yn seiliedig ar ysgogiad a bennir gan CBAC (5 - 14 munud) gan ddefnyddio technegau ymarferwr theatr neu genre

• Portffolio o dystiolaeth ategol (750 – 900 o eiriau)

• Gwerthusiad (1 awr 30 munud)

 

Uned 2 : Perfformiad o Destun (20%, 60 marc)

Asesiad Allanol: Wedi’i asesu’n allanol gan arholwr yn ymweld rhwng mis Chwefror a Mai

Gall dysgwyr berfformio neu ddylunio;

Dau ddetholiad o’r un testun wedi’i roi at ei gilydd fel un perfformiad (5 - 14 munud)

 

Uned 3 : Dehongli Theatr (40%, 60 marc)

Arholiad ysgrifenedig 1 awr 30 munud

Un testun gosod o ddewis o bump Adolygiad o Theatr fyw AA1 (20%)

Creu a datblygu syniadau er mwyn cyfleu ystyr ar gyfer perfformiad theatraidd AA2 (30%)

Cymhwyso sgiliau theatraidd i wireddu bwriadau artistig mewn perfformiad byw AA3 (30%) Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae Drama a Theatr yn cael eu datblygu a’u perfformio AA4 (20%)

Dadansoddi a gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith pobl eraill

 

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Arweinydd Pwnc: Miss Nia Wyn Tudor
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 40%
Gwaith cwrs: 60%

Anghenion Mynediad:

Er byddai TGAU Drama yn fantais, nid yw’n angenrheidiol. Serch hynny dylid cael profiadau perfformio tu fewn a thu allan i’r ysgol ynghyd â diddordeb byw yn y Theatr. Bydd disgwyl eich bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yr Adran ac yn mynychu’r Theatr yn rheolaidd.

Beth yw Drama?

Mae Drama ac Astudiaethau Theatr yn bwnc bywiog ac amrywiol. Fe gewch gyfle i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ym maes Drama a’r Theatr. Byddwch yn astudio a pherfformio dramâu, creu a pherfformio gwaith eich hunain, dadansoddi ac ystyried perfformiadau a dramâu yn feirniadol. Prif ffocws y cwrs yw gwella eich sgiliau perfformio er mwyn i chi gael cyfle i fynd ymlaen i astudio mewn Coleg Drama neu Brifysgol.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Drama?

Cewch ddewis actio neu sgil dechnegol. Unedau ymarferol sy’n seiliedig ar destunau arbennig. Byddwch yn astudio’r ddrama gyfan ac yn dethol golygfa briodol ar gyfer y perfformiad. Yn ogystal, byddwch yn creu darn dyfeisio ar thema arbennig, yn sgriptio, hel syniadau, creu cymeriadau ac yn arbrofi i greu darn o theatr gyffrous. Bydd y perfformiad yn digwydd o flaen cynulleidfa. Bydd rhaid defnyddio amrywiaeth o dechnegau theatr er mwyn creu perfformiadau arbrofol.

Cynnwys y cwrs:

Uned 1 – Gweithdy Theatr

Uned 2 – Testun mewn Theatr

Uned 3 – Testun ar Waith

Uned 4 – Testun mewn Perfformiad

Gyrfaoedd posib: Actio | Gyrfa tu ôl i’r llenni, megis, coluro, gwisg, sain, dylunio set, goleuo, rheolwr llwyfan a chyfarwyddo | Theatr a theledu | Addysg | Y Gyfraith | Newyddion a’r wasg | Cyflwyno | Gohebu | Cyfarwyddwr Theatr a theledu | Therapydd Llefaredd | Gweithiwr cymdeithasol

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs :

https://www.cbac.co.uk/qualifications/drama/r-drama-gce-asa-from-2016/index.html