Skip to content ↓

Mae rôl allweddol gan rieni a gofalwyr i'w gyflawni i sicrhau fod eu plant yn defnyddio technoleg mewn modd priodol a diogel.  Bydd yr ysgol yn cymryd pob cyfle posib i helpu rhieni i ddeall y materion yma.   Bydd rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i gefnogi'r ysgol wrth hyrwyddo arfer dda o e-ddiogelwch ac i ddilyn canllawiau ar y defnydd priodol o:

  • Luniau neu fideo sydd wedi ei gymryd neu ei greu mewn digwyddiad ysgol
  • Gyfryngau cymdeithasol.
  • Galedwedd a meddalwedd sydd yn eiddo i’r ysgol ond at ddefnydd y plant

Bydd yr ysgol felly yn ceisio darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr yn y ffyrdd canlynol:

  1. Mewn llythyron ac ar wefan yr ysgol
  2. Sesiynau hyfforddiant ar gyfer rhieni a gofalwyr
  3. Gwybod am ddiwrnodau penodol yn y flwyddyn e.e. Diwrnod e-Ddiogelwch (ail ddydd Mawrth mis Chwefror)
  4. Cael eu cyfeirio at wefannau neu gyhoeddiadau priodol e.e.
  5. https://hwb.wales.gov.ukwww.saferinternet.org.uk;
  6. http://www.childnet.com/parents-and-carers