Skip to content ↓
Bonjour, Hola ac Helo! Croeso i Adran Ieithoedd Tramor Modern YGBM.
Gweledigaeth yr Adran Ieithoedd Tramor Modern yw datblygu’r sgiliau a hyder ar gyfer ein holl ddysgwyr iaith i ddatblygu i fod yn ddinasyddion byd-eang sydd yn perthyn i gymdeithas amlddiwylliannol ac amlieithog. Ein nod yw i ddatblygu dysgwyr iaith sydd yn ieithyddion angerddol gydag ymwybyddiaeth gref o’r byd o’u cwmpas. Mae ein cwricwlwm, sydd yn dilyn dull thematig a gramadgeol, yn sicrhau bod ein myfyrywyr yn astudio amrywiaeth o bynciau yn amrywio o Lênyddiaeth Gwerin Ffrengig, Bywyd Ysgol, Technoleg a’r Amgylchedd gan gynnwys ystod eang o gyfeiriadu diwylliannol a sgiliau iaith gall dysgwyr trosglwyddo o thema i thema. Nod y themau hyn yw i gynyddu ymwybyddiaeth ein dysgwyr o’r byd o’u cwmpas gan edrych nid yn unig ar wlad yr iaith darged ond hefyd ar wledydd Ffrangeg a Sbaeneg eu hiaith sydd yn anelu at roi mynediad i ddisgyblion i’r 49 gwlad ledled y byd lle siaradir yr ieithoedd hyn.
Adran:

Miss M Davies - Pennaeth Adran

Mrs A Price 

Mr D Farr 

Mrs N Rowlands

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Trydar: @ieithoeddyfro
Gweithgareddau Ychwanegol:
  • Clwb Ffrangeg (Uwchradd)
  • Clwb Ffrangeg (Cynradd
     
    ts/7A94BE89017C210488D969A632A4F1F5.jpg" title="" width="720" />

     

    Fel adran rydym wedi llwyr ymrwymo i ddatblygu sgiliau iethyddol gydol oes ein disgyblion ac yn annog ein myfyrwyr i ddatblygu cariad at ieithoedd trwy wersi bywiog a rhynweithiol. Bydd gan ddisgyblion dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg y byddant yn gallu ei defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunnau gan ddatblygu sgiliau ieithyddol gydol oes a fydd yn cegfnogi eu llwyddiant academaidd  y gellir ei trosgwlyddo i fyd cyffrous o gyfleoedd.

    CA3 (Blwyddyn 7-9)

     

    Blwyddyn

    Tymor

    Themau

    7

    Hydref

    Moi et Ma Région

    Dysgu sut i gyflwyno ein hunain yn Ffrangeg yn ogystal â dweud le rydym yn byw a mynegi barn am yr ardal lle rydym yn byw.

     

    Gwanwyn

    La Ville D’Ys

    Astudiaeth o chwedl Ffrangeg sydd yn plethu sut I ddisgrifio ein hunain ac eraill tra’n datblygu gwybodaeth ddyfnach o lythrennedd driphlig.

     

    Haf

    Les Vacances

    Darganfod y byd o’n cwmpas gan ddysgu am wledydd eraill a’r gweithgareddau rydym yn gwneud tra a’r wyliau. Byddwn hefyd yn dysgu I ffurfio’r dyfodol syml yn Ffrangeg.

    8

    Hydref

    Mon collège

    Gallu sôn am y pynciau rydym yn astudio a defnyddio mynegi barn ymestynnol wrth eu trafod. Gallu disgrifio gwahanol agweddau o fywyd ysgol megis cyfleusterau, gwisg ysgol a gweithgareddau amser cinio yn yr amser presennol a gorffennol.

     

    Gwanwyn

    Mes Passe-Temps

    Gallu trafod manteision ac anfanteision chwaraeon a gweithgareddau amser hamdden gan ddefnyddio’r presennol, gorffennol a dyfodol.

     

    Haf

    Au Resto

    Cynyddu ein ymwybyddiaeth o ddiwylliant Ffrainc trwy ddysgu am fwydydd traddodiadol Ffrengig. Gallu trafod manteision ac anfanteision bwydydd iach ac afiach yn hyderus. Defnyddio’r amodol wrth sôn am ein pryd o fwyd delfrydol.

    9 Ffrangeg

    Hydref

    L’environnement

    Dysgu am broblemau amgylcheddol y byd a’u datrusiadau posibl gan ddefnyddio strwythurau mynegi barn ymestynnol. Gallu trafod manteision ac anfanteision gwahanol fathau o egni. Defnyddio’r amseroedd presennol, gorffennol a dyfodol yn llwyddiannus wrth drafod sut rydym yn helpu’r amgylchedd.

     

    Gwanwyn

    La Technologie

    Edrych ar fanteision ac anfanteision technoleg fodern gan gynnwys rhwydweithau cymdeithasol, seiberfwlio a technoleg y dyfodol.

    Defnyddio’r amseroedd presennol, gorffennol a dyfodol yn llwyddiannus wrth drafod sut rydym yn defnyddio technoleg yn ein bywydau. Dysgu i ddefnyddio’r amodol wrth sôn am dechnoleg y dyfodol.

     

    Haf

    Les Choristes

    Astudiaeth o ffilm Ffrengig Les Choristes sydd yn edrych ar ysgol i fechgyn yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Datblygu sgiliau dadansoddi wrth drafod prif ddigwyddiadau, themau a chymeriadau’r ffilm.

     

    CA4 (Blwyddyn 10-11)

    Nod yr adran wrth gynnig y cwrs TGAU Ffrangeg yw rhoi’r cyfle i’r disgyblion ddatblygu yn ddinasyddion eangfrydig sy’n gallu cyfathrebu ag eraill yn hyderus ac sy’n arddangos sgiliau ieithyddol a fydd yn y dyfodol yn fanteisiol ym myd gwaith.

    Dengys ystadegau diweddar bod ennill cymhwyster mewn ieithoedd yn fanteisiol wrth wneud cais am swyddi yn y meysydd canlynol:

     

    Busnes

       Trafnidiaeth a theithio

    Gweithgynhyrchu

    Gwasanaethau cymunedol a chymdeithasol

    Bancio/cyllid

    Gweinyddiaeth

    Masnach

    Addysg

    Gwestai a thai bwyta

    Sefydliadau Rhyngwladol

    Byd iechyd

     

     

    Mae astudio Ffrangeg i safon TGAU yn cyfoethogi ymwybyddiaeth Ewropeaidd y disgyblion ac yn cynnig sgiliau sy’n addas i’r economi byd-eang. Wrth ddilyn cwrs TGAU Ffrangeg, amcanir:

    • y bydd y disgyblion yn mwynhau’r profiad cadarnhaol o ddysgu ieithoedd tramor

    • y parheir â dulliau dysgu rhyngweithiol yr adran gan ddatblygu sgiliau rhyngbersonol y disgyblion

    • y datblygir ymhellach y cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli rhwng yr adran â disgyblion mewn ysgolion yn y gwledydd lle siaredir Ffrangeg

    • y galluogir y disgyblion i ddefnyddio Ffrangeg yn naturiol mewn sefyllfaoedd ymarferol

    • yr addysgir y disgyblion am ddiwylliant a gwareiddiad gwledydd lle siaredir Ffrangeg, trwy waith yn yr ystafell ddosbarth a thrwy ymweliadau addysgol â’r gwledydd hynny

    • y manteisir ar gyfleon i hybu agwedd bositif tuag at ddysgu ieithoedd tramor a thuag at siaradwyr ieithoedd tramor modern

    • y datblygir ymwybyddiaeth y disgyblion o natur dysgu iaith a thelir sylw i sgiliau astudio amrywiol

    • y datblygir sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu y disgyblion wrth wneud defnydd o’r rhyngrwyd, e-bost, web cam, pecynnau meddalwedd arbenigol, fideo a theledu lloeren.

     

    Cynnwys y Cyrsiau TGAU Ffrangeg

    Bydd y disgyblion yn dysgu sut i drafod agweddau gwahanol o’u bywydau trwy gyfrwng y Ffrangeg. Hyfforddir hwy i ymdopi mewn sefyllfaoedd twristiaeth a byd gwaith tramor. Disgwylir iddynt hefyd ddysgu am faterion bydeang. Bydd y disgyblion yn dysgu sut i drafod agweddau gwahanol o’u bywydau trwy gyfrwng y Ffrangeg. Hyfforddir hwy i ymdopi mewn sefyllfaoedd twristiaeth a byd gwaith tramor. Disgwylir iddynt hefyd ddysgu am faterion byd-eang.

     

    Rhestrir themau cyrsiau TGAU Ffrangeg isod:

    • HUNANIAETH A DIWYLLIANT

    • CYMRU A’R BYD

    • CYFLOGAETH AC ASTUDIAETH

     

    Asesu

    Arholir y pedair sgil ieithyddol yn Ffrangeg. Mae gwerth yr asesu ar gyfer pob sgil fel a ganlyn :

    UNED 1 – SIARAD 25%

    UNED 2 – GWRANDO 25%

    UNED 3 – DARLLEN 25%

    UNED 4 – YSGRIFENNU 25%

     

    Mae natur yr asesu wedi newid yn llwyr o fewn ITM ers Medi 2016. Nid oes Asesiadau dan Reolaeth bellach yn rhan o’r dull asesu. Asesir yr holl gwrs ar ddiwedd blwyddyn 11 fel arholiad terfynol. Bydd yr arholiad llafar yn cael ei chynnal yn cael ei farcio’n allanol.

    Dylai disgyblion sy’n dangos addewid mewn Ieithoedd Tramor Modern yn ystod blwyddyn 9 ystyried astudio Ffrangeg a Sbaeneg ar gyfer TGAU. Bydd hyn yn galluogi disgyblion i barhau i astudio ieithoedd ymhellach, ac ni ddylid ystyried astudio dwy iaith fel cyfyngu ar opsiynau.

    Mae astudio iaith yn golygu dysgu sgil newydd a fydd yn aros gyda’r disgyblion am oes, ymhell y tu hwnt i’w hastudiaethau TGAU.

    CA5 (Blwyddyn 12-13)

    Arweinydd Pwnc: Miss Mari Davies
    Bwrdd Arholi: CBAC
    Arholiadau: 100%
    Gwaith cwrs: 0%

    Anghenion Mynediad:

    Dylech lwyddo i ennill o leiaf gradd B ar draws holl unedau’r cwrs Ffrangeg TGAU. Dylech fod wedi sefyll papurau Haen Uwch.

    Beth yw Ffrangeg?

    Mae’r cwrs Safon Uwch Ffrangeg wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd ag angerdd am ieithoedd ac â diddordeb mewn diwylliant Ffrainc a gwledydd Ffrangeg ei hiaith. Bydd Safon Uwch Ffrangeg yn rhoi cyfle i chi ennill ystod eang o sgiliau ieithyddol gan gynnwys geirfa helaeth ac ystod o strwythurau gramadegol.

    Yn ystod y cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd myfyrwyr yn cael cyfle i archwilio materion a thueddiadau cymdeithasol yn ogystal â diwylliant gwleidyddol, deallusol ac artistig yn y byd Ffrangeg ei hiaith. Mae Ffrangeg yn bwnc cydnabyddus ac academaidd sydd yn agor y drysau i’r byd o’ch cwmpas. Mae’n bwnc defnyddiol sydd yn datblygu ystod eang o sgiliau yn amrywio o gyfathrebu, deall gwahaniaeth ac amrywiaeth hyd at ddinsasyddiaeth a datrus problemau.

    Beth fyddaf yn dysgu o fewn Ffrangeg?

    Bydd y gwersi’n cynnwys cyfnodau dysgu themâu a thrafodaethau dosbarth er mwyn gwella gwaith ysgrifenedig a sgiliau llafar. Bydd gwaith gramadegol yn cael ei blethu drwy’r holl wersi er mwyn gwella cywirdeb a dealltwriaeth o strwythur yr iaith. Bydd disgyblion yn cael eu hannog i ddefnyddio amrediad eang o adnoddau gan gynnwys unedau a nodiadau’r ysgol, y we a gwefannau Quizlet a Memrise. Bydd gwaith llafar, ysgrifenedig a phrofion gramadeg yn cael eu cyflawni drwy gydol y ddwy flynedd. Yn ystod y cwrs byddwch hefyd yn ehangu eich ymwybyddiaeth o wledydd Ffrangeg ei hiaith drwy edrych yn fanylach ar ddiwylliant y gwledydd hyn gan gynnwys astudio llenyddiaeth a ffilmiau Ffrangeg a’u cyddestun.

    Cynnwys y cwrs:

    Thema 1: (UG) Byw fel person ifanc mewn cymdeithas Ffrangeg ei hiaith

    Thema 2: (UG) Deall y byd Ffrangeg ei iaith

    Thema 3: (Safon Uwch) Amrywiaeth a Gwahaniaeth

    Thema 4: (Safon Uwch) Ffrainc 1940-1950: Y Goresgyniad a’r blynyddoedd wedi’r rhyfel.

    Gyrfaoedd posib:

    Mae ieithoedd yn agor drysau i ystod eang tu hwnt o yrfaoedd megis swyddi ym myd addysg, y gyfraith, y cyfryngau, recriwtio a llawer mwy. Mae prinder mawr o bobl ym Mhrydain sy’n medru siarad ieithoedd tramor, felly mae astudio iaith fodern ar gyfer Lefel A yn sgil perthnasol mewn pob math o feysydd, ac yn sgil sy’n cael ei hystyried yn ddeniadol iawn gan brifysgolion a chyflogwyr. Ffrangeg yw un o ieithoedd mwyaf amlwg Ewrop, ac mae’n cael ei siarad yn ogystal yn Québec yng Nghanada. Os ewch chi ymlaen i’r brifysgol, bydd cyfle i chi dreulio blwyddyn yn un o’r gwledydd hyn fel rhan o’ch gradd.

    Sylwad Disgybl: “Penderfynais astudio Ffrangeg i Lefel A gan ei fod yn ehangu cysylltiadau byd-eang ac yn agor drysau i swyddi amrywiol yn y dyfodol” Alys Evans

    Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

     https://www.cbac.co.uk/qualifications/french/r-french-gce-asa-from-2016/