Glas y Gors - Blwyddyn 2
Croeso i ddosbarth Glas y Gors!
Mr M Bowen yw ein athro eleni yn nosbarth Glas y Gors ac mae Mrs John a Miss Turner hefyd yn ein helpu. Mae 29 o ddysgwyr hapus, caredig a chwilfrydig yn y dosbarth sydd yn hoff iawn o astudio themâu newydd.
Rydym wrth ein boddau yn darllen, ymarfer ein sgiliau ysgrifennu, cwblhau gwaith rhifedd, darganfod sgiliau digidol newydd yn ogystal â chynnal ymholiadau gwyddonol cyffrous yn y dosbarth. Ein thema cyntaf eleni fydd Byd Llawn Dychymyg lle byddwn yn dathlu’r cyfoeth o lenyddiaeth a barddoniaeth sydd gennym yma yng Nghymru.
Pwysig:
- Bydd ein gwersi ymarfer corff yn digwydd ar ddyddiau Mawrth a Gwener.
- Byddwn yn derbyn llyfr darllen newydd yn ein bagiau glas ar ddydd Gwener. Disgwylir i’r bag glas gael ei ddychwelyd i’r ysgol erbyn y dydd Mercher canlynol.
- Bydd tasgau sillafu a rhifedd yn cael eu gosod ar Google Classroom yn wythnosol.
- Bydd tudalen Dewis Difyr yn cael ei gosod ar Google Classroom ar ddechrau pob hanner tymor er mwyn i ni allu parhau â’n dysgu adref.
Byrbryd
Rydym ni'n mwynhau byrbryd o laeth a ffrwyth bob diwrnod. Cofiwch anfon arian llaeth a ffrwyth i mewn (20c y diwrnod). Mae hyn i'w dalu drwy Parentpay.
Diolch yn fawr iawn,
Mr M Bowen
Cofiwch ddilyn ein hynt a helynt ar drydar ein dosbarth: @MrMBowen1