Skip to content ↓
Ysgolion MPCT (Military Preparation College for Training)
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Arweinydd Pwnc - Dr Helen Baker 
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

LLEOLIAD Y CWRS

Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5FE (Diwrnod Llawn)

 

Y MATH O GWRS

Tystysgrif Estynedig BTEC Lefel 2 mewn Gwaith Tîm a Datblygiad Personol o fewn y Gymuned (Blwyddyn 1) (yn gyfwerth i 2 TGAU, gradd B)

Tystysgrif Lefel 2, City and Guilds mewn Sgiliau Cyflogadwyedd (Blwyddyn 2) (cyfwerth i 1 TGAU, gradd B)

 

YR HYN BYDDWCH CHI’N ASTUDIO

Tystysgrif Estynedig BTEC Lefel 2 mewn Gwaith Tîm a Datblygiad Personol o fewn y Gymuned – Blwyddyn 1

- Gwaith Tîm a Sgiliau Cyfathrebu.

- Gwella Iechyd a Ffitrwydd o fewn Sefydliadau Ffurfwisg.

- Sgiliau Ymgyrchoedd.

 

Tystysgrif Lefel 2, City and Guilds mewn Sgiliau Cyflogadwyedd (Blwyddyn 2) (cyfwerth i 1 TGAU, gradd B) – Blwyddyn 2

- Cynllunio gyrfa a pharatoi ceisiadau swyddi.

- Sgiliau effeithiol, gwerthoedd ac agweddau ar gyfer dysgu a’r gweithle.

- Gwella sgiliau ymarferol a thechnegau.

- Rheoli cyllid personol.

- Sgiliau Gwaith tîm.

 

Mae gwaith academaidd yn seiliedig ar gryfderau a gallu’r myfyrwyr unigol. Mae’r pwyslais ar ddatblygu ystod o sgiliau allweddol y byddant yn eich paratoi ar gyfer bywyd yn gyffredinol a’r byd gwaith.

 

SUT BYDDWCH CHI’N CAEL EICH ASESU

Cewch eich asesu yn rheolaidd trwy waith portffolio.

 

BYDDWCH YN CAEL Y CYFLE I:

Mae 50% o’r cwrs yn gorfforol ac mae’r rhaglen hyfforddiant yn mynnu bod myfyrwyr yn gwthio eu hunain mewn ystod o sefyllfaoedd, o’r prawf asesu ffitrwydd personol milwrol, ras rhwystrau, cystadlaethau croestoriad ac ymarfer dros nos. Gweithgareddau yn cynnwys adeiladau tîm, anatomi a ffisioleg, digwyddiadau elusennol a chrefft maes milwrol sylfaenol.

 

CYRSIAU: ÔL-16 GYRFAOEDD:

Diploma BTEC a City & Guilds o fewn y ddau gymhwyster.

MPCT – Coleg Gwasanaethau Cyhoeddus er enghraifft:-

  • · Lluoedd Arfog
  • · Heddlu / Gwasanaeth Tân
  • · NHS
  • · Gwylwyr y Glannau