Skip to content ↓

RHEOLAU GWISG YSGOL

Fel ysgol rydym yn ymfalchïo yn ein safonau uchel o’r wisg ysgol ac ymarweddiad cyffredinol. Credwn fod y wisg yn ymarferol a syml tra ei fod hefyd yn cadw costau i lawr i deuluoedd.

Bydd eich mab/merch yn hollol ymwybodol o’r rheolau yma ond dyma rai o’r prif bwyntiau hoffwn dynnu eich sylw atynt:

Cynradd ac Uwchradd

  • Ni chaniateir gemwaith na cholur yn yr ysgol
  • Ni chaniateir steil gwallt anghyffredin

 

Gwisg Ddyddiol

  • Esgidiau du plaen
  • Dim 'Trainers'
  • Dim sodlau uchel
  • Crys polo a chrys chwys swyddogol yr ysgol
  • Cot gnuog a/neu got law swyddogol yr ysgol YN UNIG

 

Naill ai:

  • Trowsus nefi plaen clasurol (DIM jeans, chinos, flares, trowsus melfared neu wisg chwaraeon) gyda sannau nefi
  • Sgert nefi hyd at y pengolin gyda sannau/deits nefi. Dim ond y sgert swyddogol o A Class Apart neu Ruckleys sydd yn dderbyniol. 

Gwisg Haf Cynradd

  • Ffrog haf glas a gwyn
  • Crys polo swyddogol yr ysgol
  • Crys chwys neu chardigan swyddogol yr ysgol
  • Siorts nefi
Crys Polo
Crys Chwys
Cot gnuog a chot law

 

Cynradd: Gwersi Addysg Gorfforol

  • Crys T Llys (coch, glas, gwyrdd)
  • Siorts neu sgert nefi
  • Sanau nefi
  • Trainers

 

 

Uwchradd: Gemau Ysgol

  • Crys rygbi swyddogol yr ysgol
  • Siorts neu sgert swyddogol yr ysgol
  • Sanau glas swyddogol yr ysgol
  • Trainers neu boots

 

Uwchradd: Gwersi Addysg Gorfforol

  • Crys polo gwyn swyddogol
  • Siorts glas swyddogol
  • Sanau glas swyddogol
  • Trainers
Crys rygbi
Siorts a sgert
Crys chwys

 

Chweched Ddosbarth

  • Dim ond un freichled/mwclis/modrwy/gemwaith synhwyrol o ran maint. Caniateir colur ysgafn a lliwio ewinedd a phaent clir yn unig.
  • Caniateir un par o stỳds ar waelod y glust.
  • Ni chaniateir steil na lliw gwallt anghyffredin sydd ddim yn cadw at safon na steil gwisg yr ysgol.
  • Sgert ddu blaen addas hyd at y ben-glin i’r merched. Ni chaniateir sgertiau tynn.
  • Trowsus du plaen i’r bechgyn/merched (dim chinos, jeans, trowsus tynn, trowsus sydd â bathodynau amlwg na botymau amlwg)
  • Esgidiau lledr plaen du nid trainers na daps canfas gyda logo arnynt.
  • Sanau du neu deits du.
Siwmper

 

Cot gnuog

 

 

Blowsen llewys byr

 

Blowsen llewys hir

 

 
Crys llewys byr

 

Crys llewys hir

 

Mae gwisg ysgol ar gael yn y lleoliadau isod:

YC Sports Canton neu ar wefan YC Sports.

Mae sawl ffordd i brynu'r wisg o YC Sports:

  • Gallwch archebu ar-lein a'i chael i'w gludo i'ch tŷ gyda thâl cludiant ychwanegol.
  • Gallwch archebu ar-lein a defnyddio'r opsiwn 'Click and Collect' gyda chludiant am ddim.
  • Gallwch archebu i'w gasglu o Brif dderbynfa'r ysgol
  • Bydd gyda YC Sports siop 'pop up' ar ddiwedd pob hanner tymor yn yr ysgol.
  • Neu gallwch ymweld â siop YC Sports:

                                                         YC Sports (Canton)
                                                         156 Cowbridge Rd East
                                                         Caerdydd
                                                         CF11 9DU
                                                         02920220246

Noder, does dim gwisg YGBM ar gael o'r gangen ar Crwys Road.

A Class Apart

Yn A Class Apart, rydym yn cynnig nifer o opsiynau prynu a danfon sy'n golygu y gallwch ddewis yr opsiwn sydd fwyaf addas i chi.
Gall archeb ar-lein gael eu casglu o'n siop, eu danfon i'ch cartref neu weithle, neu eu danfon i ysgol eich plentyn i'w casglu. Mae casglu o'r siop a danfoniadau i'r ysgol yn rhad ac am ddim.

Codir cyfradd safonol o £4.95 am ddanfoniadau i gyfeiriadau cartref neu waith.
Gellir prynu gwisg ysgol hefyd o'n siop:- A Class Apart, 9 The Parade, Dinas Powys, CF64 4NR.

Gwefan A Class Apart

Ff: 02920 515722 W: www.aclassapart.co.uk

 

Ruckleys

45-47 Holton Rd Barry CF63 4HB are now stocking Bro Morgannwg uniform.

We are open Monday to Saturday 10 am - 5 pm all year round but extend these hours during the back to school period. Please join us on facebook.com/ruckleys for regular updates.

We take cash and debit/ credit card and offer an easy payment plan.

You can phone up and pay and collect or we can deliver to school but we welcome face to face and pride ourselves on our friendly customer services. We even have a fluent Welsh speaker in our team.

Appointments are only necessary during July and August although we encourage year 7 pupils to book or call in May/June. Discounted bundles are available for families that shop early.

To book an appointment please follow this link https://outlook.office365.com/owa/calendar/RuckleysBooking1@Ruckleys.onmicrosoft.com/bookings/

Or call 01446 700006
Text/WhatsApp 07957 312 624

 

Rhoddion 

Rydym yn derbyn gwisg ysgol ail law, gallwch ei adael ym mhrif fynedfa'r Cynradd neu'r Uwchradd.

Bydd angen i'r eitemau fod yn lân ac mewn cyflwr da.

Caiff y wisg ei werthu, ar bris wedi’i ostwng, mewn digwyddiadau ysgol.

Eiddo Coll

Caiff eiddo coll ei reoli gan Miss Cari Ormerod, Adran Wyddoniaeth.

Mae'n bwysig sicrhau bod offer a gwisg gydag enw'r disgybl yn glir arnynt.  Os caiff unrhyw eiddo eu colli gydag enw, fe geisiwn ei ddosbarthu yn ôl i'r perchennog.

Os oes gyda chi unrhyw eiddo ar goll, cysylltwch â Miss Omerod i weld y cwpwrdd eiddo coll.