Skip to content ↓

Cyfnod Allweddol 2

Yn yr adran hon, ymfalchïwn yn ein gallu i ddarparu amgylchedd croesawgar a diogel i blant lle mae pob disgybl yn cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Treuliwn amser i sefydlu perthynas waith dda gyda disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a’r gymuned. Dathlwn ymdrechion, cyrhaeddiadau a thalentau unigolion gan hefyd ddatblygu agweddau o hunan-barch ac hunan-hyder mewn unigolion er mwyn iddynt allu arbrofi ac ymchwilio er mwyn dysgu pethau newydd. Yn graidd i hyn, anelwn at ddatblygu dysgwyr sydd yn Gymry Cymraeg ac yn ddinasyddion sydd yn ymfalchïo yn eu hiaith, eu diwylliant a’u traddodiadau.

Yng Nghyfnod Allweddol 2 mae gennym bedwar dosbarth: Onnen (Blwyddyn 3), Helygen (Blwyddyn 4), Ywen (Blwyddyn 5) a Derwen (Blwyddyn 6). Dysgir y dosbarthiadau mewn dosbarthiadau eang a chroesawgar sydd â chyfleusterau modern a hynny gan athrawon brwdfrydig, egnïol a gofalgar. Bydd ein gwersi bore yn ffocysu ar elfennau ieithyddol a rhifedd, gyda gwersi ein prynhawn yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr adeiladu ar sgiliau blaenorol ac arbrofi gyda’r meysydd dysgu a phrofiad. Bydd elfennau o waith y cyfnod wedi ei ffocysu ar waith prosiect sydd yn annog ein dysgwyr i feddwl ac i ddatblygu fod yn unigolion sydd yn fentrus ac yn greadigol, yn uchelgeisiol a galluog, yn ddysgwyr egwyddorol, gwybodus ac hefyd yn rhai iach ac hyderus. Dysgwn a datblygwn sgiliau’r fframweithiau llythrennedd, rhifedd a digidiol yn draws –gwricwlaidd ac o fewn ein gwersi ar y meysydd dysgu a phrofiad sef:

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Dyniaethau
  • Iechyd a Lles

Yn wythnosol, bydd sesiynau lles yn cael eu cynnal yng Nghyfnod Allweddol 2 gydag athrawon yn darparu sesiynau sydd yn caniatáu i ddysgwyr siarad am deimladau a phynciau cyfoes, meithrin sgiliau cymdeithasol amrywiol a deall sut i barchu pawb a phopeth. Gweithredwn yn ôl y dywediad ‘Derbyn beth sydd yn debyg a dathlu beth sydd yn wahanol’. Yn ogystal â sesiynau lles, bydd dysgwyr yn derbyn dwy sesiwn Ymarfer Corff yn wythnosol gyda’r cyfleusterau arbennig sydd gennym.

Wrth fynd ati i gynllunio bydd athrawon yn sicrhau bod llais y disgybl yn ganolbwynt i’r hyn sydd yn cael eu cyflwyno yn y gwersi. Bydd y gwersi yn rhai eang, cytbwys a gwahaniaethol er mwyn darparu ar gyfer dysgwyr sydd ar wahanol gyfnodau datblygu. Bydd y gweithgareddau yn ysgogi ac yn herio potensial y dysgwyr. Byddant yn mynd ar ymweliadau addysgiadol pan fo hynny'n berthnasol er mwyn ehangu gorwelion y dysgwyr ac i ychwanegu at eu datblygiad addysgol, personol, moesol a chymdeithasol yn ogystal â datblygu eu dealltwriaeth a'u gwerthfawrogiad o'i cynefin cyfagos a'u cymuned. 

Rhan o waith athrawon Cyfnod Allweddol 2 yw i baratoi dysgwyr ar gyfer eu pennod newydd yn yr Ysgol Uwchradd. Yn ystod eu blwyddyn olaf yn y cynradd bydd nifer o weithgareddau pontio yn cael eu trefnu i flwyddyn 6 yn ogystal â gweithgareddau i flynyddoedd 4 a 5. Bydd amrywiaeth o brosiectau yn cael eu cynnal rhwng y Cynradd a’r Uwchradd e.e prosiectau darllen a Mêts Mathemateg i enwi ond rhai. Bydd y profiadau hyn oll yn gosod sylfaen gadarn i’r hyn sydd o’u blaenau yn yr Uwchradd.

Yng Nghyfnod Allweddol 2 bydd cyfleoedd gan ddysgwyr i fod yn rhan o gynghorau amrywiol y cynradd. Bydd rhain yn rhannu syniadau a chodi materion o bwys er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn lle hapus a dymunol i bawb. Gallant gael eu henwebu i fod yn rhan o: Cabinet y Cyrnadd, Y Cyngor Eco, Y Siarter Iaith ac yn rhan o waith y Dewiniaid Digidol. Rhydd y cynghorau hyn gyfle i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau siarad yn gyhoeddus, eu sgiliau cyfathrebu, cydweithio a gwaith tîm a sgiliau arwain.

Yn yr adran, adeiladwn a datblygwn yr hyn sydd eisoes wedi eu dysgu i ddysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen gan hefyd eu paratoi am lwybrau addysgiadaol a phersonol y dyfodol.