Skip to content ↓

Croeso i dudalen ddosbarth Llygad y Dydd!

Miss R Townsend-Ryan sy'n ein dysgu ni eleni gyda help Miss M Burne, Miss C Reed a T Turner. Daw Mrs Z Atkins i'n dysgu ni bob yn ail ddydd Mawrth. Mae 29 o blant brwdfrydig a hapus yn ein dosbarth eleni. Rydym wrth ein boddau yn dysgu pethau newydd trwy chwarae, arbrofi a darganfod. Ein thema y tymor hwn yw 'Byd Bendigedig!'

Gwybodaeth Ddefnyddiol 

  • Bydd ein gwersi ymarfer corff yn digwydd ar ddyddiau Llun a Mercher.

Llaeth a Ffrwyth

Rydym yn mwynhau llaeth a ffrwyth gyda'n gilydd bob dydd a gofynnwn am gyfraniad o 20c y dydd. Pob taliad i'w wneud drwy system ParentPay.

Os gwelwch yn dda, darparwch botel ddŵr i'ch plentyn gyda'u henw nhw'n glir arno er mwyn iddynt gael digon i'w yfed drwy'r dydd. Bydd y poteli yn dychwelyd adref yn ddyddiol er mwyn iddynt gael eu golchi a'u hail-lenwi.

I gael cipolwg o hwyl a sbri'r dosbarth dilynwch @MissRTRyan ar Trydar (X).