Skip to content ↓

Mae gan ein disgyblion gyfle i leisio'u barn ac i chwarae rôl allweddol ynghylch pob agwedd o fywyd ein hysgol. Rhoddir y cyfleoedd hyn iddynt yn eu dosbarthiadau pynciol mewn IsBwyllgorau, mewn cyfnodau cofrestru ac wrth gwrs mewn cyfarfodydd Cabinet.

Mae'r ysgol yn credu mewn rhoi cyfle cyfartal i bawb leisio eu barn er mwyn eu paratoi ar gyfer y byd go iawn, lle bydd rhaid iddynt wneud penderfyniadau.

Mae cyfleoedd cyfoethog i ddisgyblion leisio barn, ysgwyddo cyfrifoldebau ac ymgymryd â rolau arweiniol. Er enghraifft, drwy gyfrwng y cabinet ysgol a fforymau amrywiol, mae disgyblion yn ymgymryd yn frwdfrydig â rolau amrywiol sydd yn eu datblygu i fod yn ddinasyddion gweithredol a chyfrifol. " ESTYN 2019

Y Cyngor Ysgol

Cynradd

Rydym yn griw o ddisgyblion bywiog a gweithgar a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Eleni am y tro cyntaf mae 12 disgybl yn rhan o’r Cyngol Ysgol. Rydym yn cwrdd yn gyson i drafod materion pwysig yr ysgol ac yna yn cwrdd fel Cabinet gyda’r Uwchradd i drafod materion ysgol gyfan.  Pwrpas ein Cyngor Ysgol yw rhannu syniadau a chodi materion o bwys er mwyn sicrhau bod ein hysgol ni yn un hapus i bawb.

Uwchradd

Rhoddir cyfle i bob plentyn o flwyddyn 7 hyd 13 i leisio eu barn yn agored mewn sesiynau trafod amser cofrestru. Gellir trafod amryw o bynciau sy'n peri pryder i ddisgyblion neu gallant fynegi eu barn am yr hyn y ddymunant newid o fewn yr ysgol. Mae dau gynrychiolydd gan bob dosbarth cofrestru sy'n adrodd nôl i'r Pennaeth Blwyddyn - yna mae dau o blith y flwyddyn gyfan yn cynrychioli pob blwyddyn mewn cyfarfodydd Cabinet Ysgol, gyda'r Prif Swyddogion, aelodau Staff yr ysgol a'r Prifathro.

Yr Eco Gyngor

Rydym fel ysgol yn angerddol am yr amgylchedd a'r byd o'n cwmpas. Mae'r pwyllgor eco yn sicrhau bod yr ysgol yn rhedeg yn y ffordd fwyaf gwyrdd ac effeithiol a phosib.  Gwneir hyn trwy rannu posteri a gwneud holiadur i fesur effeithiolrwydd ein ystafelloedd dysgu.  Yn ogystal, mae'r cyngor yn helpu codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol gan gynghori eu cymheiriaid ar sut gallent nhw weithredu i helpu achub y blaned.

Y Criw Cymraeg

Cynradd

Mae mwynhau byw a siarad yn Gymraeg yn bwysig iawn i ni yma'n y Fro.  Ymunwch a'r Criw Cymraeg i ffeindio allan mwy!