Skip to content ↓
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Arweinydd Pwnc: Miss Alaw Ifans
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 100%
Gwaith cwrs: 0%

 “Byddwn yn argymell y cymhwyster i unrhyw un sy’n mwynhau her, ac sydd â meddwl mathemategol.” Disgybl Blwyddyn 12

Anghenion Mynediad:

Disgwylir eich bod wedi astudio TGAU at safon yr haen uwch ac eich bod wedi ennill gradd B neu uwch cyn ystyried astudio’r pwnc.

Beth yw Mathemateg Bellach?

Mae Mathemateg Bellach yn gymhwyster UG neu Safon Uwch sy’n ehangu ac yn dyfnhau’r fathemateg a gwmpesir mewn Mathemateg Safon Uwch. Cymerir Mathemateg Bellach ochr yn ochr â UG neu Safon Uwch mewn Mathemateg.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Mathemateg Bellach?

 Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn modd diddorol a byw gan ei osod mewn cyd – destun. Bydd pwyslais ar feddwl a chwestiynu. Byddwn yn gwneud defnydd eang o’r adnoddau sydd gan yr adran. Fe fydd meddalwedd yn cael ei ddefnyddio ar y byrddau gwyn rhyngweithiol yn ogystal ar y cyfrifiaduron sydd ar gael yn yr adran. Nid gwneud y gwaith ar eich rhan bydd pwrpas y feddalwedd ond yn hytrach eich cynorthwyo i ddeall cysyniadau pwysig sy’n dod â gwerthfawrogiad o ddefnyddioldeb a harddwch y pwnc.

Cynnwys y cwrs:

UG Uned 1: Mathemateg Bur Bellach Arholiad Ysgrifenedig: (13% o’r cymhwyster)

UG Uned 2: Ystadegaeth Bellach (13% o’r cymhwyster)

UG Uned 3: Mecaneg Bellach (13% o’r cymhwyster)

Rhaid i ymgeiswyr gymryd Uned 4 a naill ai Uned 5 neu Uned 6.

U2 Uned 4: Mathemateg Bur Bellach (35% o’r cymhwyster) Mae’r uned hon yn orfodol.

U2 Uned 5: Ystadegaeth Bellach (25% o’r cymhwyster)

U2 Uned 6: Mathemateg Bellach (25% o’r cymhwyster)

Bydd dysgwyr yn sefyll naill ai Uned 5 neu Uned 6. Bydd y papur yn cynnwys nifer o gwestiynau byr a hirach, cwestiynau strwythuredig ac anstrwythuredig, sy’n gallu cael eu gosod ar unrhyw ran o gynnwys pwnc yr uned. Bydd nifer o gwestiynau’n asesu dealltwriaeth dysgwyr o fwy nag un testun o’r cynnwys pwnc.

Gyrfaoedd posib:

Am y mwyafrif o gyrsiau prifysgol mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) mae lefel A mewn Mathemateg yn angenrheidiol ac yn aml mae AS neu Lefel A mewn Mathemateg Bellach yn aml yn ddewis ffafriol. Mi fydd rhaid i unrhyw fyfyriwr sydd am roi cais mewn am radd mewn cwrs STEM ystyried cymryd Mathemateg Bellach hyd at AS ar y lleiaf, oherwydd mae’r cynnwys ychwanegol yn help i ddilyniant llwyddiannus yn y brifysgol.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://www.wjec.co.uk/qualifications/mathematics/r-mathematics-gce-2017/?language_id=2