Skip to content ↓
Yma ym Mro Morgannwg mae Addysg Gorfforol yn fater o falchder i’r ysgol gyfan gyda’n timoedd, clybiau a digwyddiadau di-ri.  Mae’r flwyddyn gyfan yn annog y rhedwyr traws gwlad a dim ond ambell i ymryson sy’n llai o ornest na’r pencampau traws-lysol a’r mabolgampau.  Mae hyn oll yn adlewyrchu cred yr adran o gynnwys pawb, magu brwdfrydedd ag maethu agwedd bositif.
Adran:

Mr R Chidley - Pennaeth Adran

Mr R Beynon

Miss B Price 

Miss M Williams 

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

Trydar: @AddGorffYGBM
Gweithgareddau Ychwanegol:

 

  • Clwb Gymnasteg
  • Pêl-osgoi
  • Pêldroed
  • Hoci
  • Pêlrwyd
  • Pêl fasged
  • Rygbi
  • Clwb Ffitrwydd Merched
  • 5-yr-ochr
  • Tenis Bwrdd
  • Pêl-mainc
  • Athletau
  • Traws Gwlad
  • Rygbi 7-yr-ochr 
  • Tenis 
  • Criced

Am fwy o wybodaeth am y clybiau sydd ar gael ewch i'r ddolen 'all-gwricwlaidd' sydd ar ben y dudalen yma!

“Mae hi’n ddiddorol cael dysgu am y gwahanol elfennau sydd o fewn Addysg Gorfforol. Mae wedi rhoi cyfle i mi ddysgu sut mae’r corff a’r ymennydd yn cydweithio sydd yn gwneud y cwrs yn gyffrous.”

Ellie Peterson (Blwyddyn 13)

CA3 (Blwyddyn 7-9)

 

Bl

Tymor

 

 

7

1

Traws gwlad

Gym

Rygbi

Pel-droed

Traws gwlad

Hoci

Pel-rwyd

 

2

Pel-droed

Gym

Rygbi

Pel-fasged

Adeiladu tim

Profion ffitrwydd

Hoci

Pel-rwyd

Pel-droed

Ffitrwydd

Dawns

Gym

 

3

Profion ffitrwydd

Tenis byr

Hoci

Athletau

Criced

Gym

Dawns

Athletau

Rownderi

8

1

Traws gwlad

Pel-droed

Pel-fasged

Profion ffitrwydd

Traws gwlad

Gym

Hoci

Pel-rwyd

 

2

Profion ffitrwydd

Gym

Hoci

Tasgau ffitrwydd

Pel-droed

Dawns

Ffitrwydd

Tasgau ffitrwydd

 

3

Athletau

Criced

Athletau

Tenis

9

1

Traws gwlad

Pel-droed

Rygbi

Pel-fasged

hoci

Traws gwlad

Hoci

Pel-rwyd

Ymarfer ffitrwydd

Pel-droed

 

2

Ffitrwydd

Gym

Dawns

Badminton

 

 

Athletau

Criced

Athletau

Rownderi

 

CA4 (Blwyddyn 10-11)

CA4

Amcanion y Cwrs

• Annog arfer ac astudio Addysg Gorfforol mewn modd pwrpasol a phleserus;

• Rhoi cyfle i’r disgyblion gymryd rhan mewn cwrs eang a chytbwys mewn addysg gorfforol;

• Caniatáu i’r disgyblion ddewis gweithgareddau ymarferol sy’n ystyried cyrhaeddiad blaenorol, diddordeb personol a lefelau unigol o gymhelliant;

• Galluogi’r disgyblion i gaffael hunan-dyb, parch tuag atynt hwy eu hunain a thuag at eraill ac i ddatblygu ymrwymiad i ffordd fywiog o fyw;

• Sicrhau bod elfennau theori y cwrs yn codi’n naturiol o’r gweithgareddau ymarferol.

 

Nodau’r Cwrs

• Datblygu a chymhwyso eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o addysg gorfforol drwy weithgareddau ymarferol dewisedig;

• Datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r gwahanol ffactorau sy’n effeithio ar gymryd rhan a pherfformiad, ac arddangos y berthynas rhyngddynt;

• Deall swyddogaeth rheolau a chonfensiynau mewn gweithgareddau dewisiedig;

• Hybu eu dealltwriaeth o’r buddion iechyd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol;

• Datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddadansoddi a gwella perfformiad;

• Cynorthwyo eu datblygiad personol a chymdeithasol drwy gymryd swyddogaethau gwahanol mewn gweithgareddau dewisedig wrth weithio gydag eraill.

 

Uned 1: Cyflwyniad i Addysg Gorfforol

Papur Ysgrifenedig: 2 awr 100 o farciau (50% o’r cymhwyster)

Asesir dysgwyr drwy amrywiaeth o gwestiynau atebion byr a chwestiynau ysgrifennu estynedig. Bydd y cwestiynau’n seiliedig ar ysgogiadau clyweledol a ffynonellau eraill.

Uned 2: Y Cyfranogwr Gweithredol mewn Addysg Gorfforol

Asesiad di-arholiad 100 o farciau (50% o’r cymhwyster)

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu fel perfformiwr mewn tri gweithgaredd gwahanol yn o leiaf un gamp unigol, un gamp tîm ac un arall. Bydd un o’r gweithgareddau hyn yn brif weithgaredd a bydd rhaglen ffitrwydd bersonol yn gysylltiedig â’r gweithgaredd hwn.

 

CA5 (Blwyddyn 12-13)

Arweinydd Pwnc: Mr Richard Chidley
Bwrdd Arholi: CBAC | WJEC
Arholiadau: 60%
Gwaith cwrs: 40%

Anghenion Mynediad:

Dylech lwyddo i ennill gradd C neu’n uwch mewn Addysg Gorfforol ar lefel TGAU.

Beth yw Addysg Gorfforol?

Mae’r fanyleb hon wedi’i llunio i ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o addysg gorfforol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau. Mae’r fanyleb wedi’i chynllunio i integreiddio theori ac arfer gyda phwyslais ar gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut mae’r gwahanol gysyniadau damcaniaethol yn effeithio ar eu perfformiad nhw eu hunain drwy integreiddio theori ac arfer. Bydd dysgwyr hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion cyfoes sy’n berthnasol i addysg gorfforol a chwaraeon yng Nghymru.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Addysg Gorfforol?

• datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o gysyniadau addysg gorfforol a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd newydd a newidiol

• datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng theori ac arbrofi

• bod yn ymwybodol o’r ffyrdd y mae datblygiadau mewn technoleg gwybodaeth ac offer yn cael eu defnyddio ym maes chwaraeon

• gwerthfawrogi cyfraniadau Addysg Gorfforol i’r gymdeithas

• dod â gwybodaeth at ei gilydd am ffyrdd y mae gwahanol feysydd chwaraeon yn cysylltu â’i gilydd

• cynnal a datblygu eich mwynhad o Addysg Gorfforol a’ch diddordeb yn y pwnc

Bydd y gwersi yn cynnwys cyfnodau dysgu a thrafodaeth dosbarth cyfan/rhannol a gwaith ymarferol ynghyd â chyfnodau tiwtorial unigol, cyflwyniadau gan ddisgyblion a gwaith darllen ac astudio unigol. Cewch eich hannog i ddefnyddio amrediad eang o adnoddau gan gynnwys gwerslyfrau’r ysgol, cylchgronnau a meddalwedd perthnasol yn ogystal â’r cyfoeth o wybodaeth sydd i’w gael ar y rhyngrwyd.

Cynnwys y cwrs:

• Uned 1 Dulliau Bywiog o Fyw ac Addysg Gorfforol

• Uned 2 Gwella Perfformiad mewn Addysg Gorfforol

• Uned 3 Perfformiad, Darpariaeth a Chyfranogiad mewn Addysg Gorfforol

• Uned 4 Mireinio Perfformiad mewn Addysg Gorfforol

Gyrfaoedd posib:

Bydd Safon UG/U yn fanteisiol iawn i’r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn unrhyw faes addysg gorfforol e.e. ffisiotherapydd, maethion neu hyfforddiant biomecaneg. Mae’r amrediad o sgiliau byddwch yn datblygu drwy ddilyn y cwrs yma yn rhai fedrwch drosglwyddo i bob math o swyddi ac mae canran uchel o bobl â chymwysterau mewn Addysg Gorfforol yn symud ymlaen i weithio fel rheolydd hamdden, newyddiadurwr chwaraeon, yr heddlu neu’r gwasanaeth tân.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://www.wjec.co.uk/qualifications/physical-education/r-gce-asa-physical-education-from2016/?language_id=2