Skip to content ↓

Sail disgyblaeth effeithiol yw cydberthynas tair ochrog rhwng y disgybl, yr ysgol a rhieni.

Mae polisi disgyblaeth yr ysgol yn un cadarnhaol gyda’r amcan o sefydlu patrwm o hunan-ddisgyblaeth.

Hanfod disgyblaeth gadarnhaol yw:

• ymddygiad y disgyblion

• cynorthwyo’r disgyblion i weithio’n galed er mwyn cyrraedd safon uchel ac agwedd gadarnhaol tuag at:

  • » Cymreictod
  • » Presenoldeb
  • » Prydlondeb
  • » Gwisg ysgol
  • » Gwaith cartref
  • » Gwaith dosbarth
  • » Gwaith cwrs

Gofynnwn am gydweithrediad llawn i rieni sicrhau bod eu plant:

  • » Yn arddel safonau uchel o ymddygiad
  • » Yn anelu at wneud eu gorau
  • » Yn bresennol yn yr ysgol
  • » Yn brydlon » Yn gwisgo’r wisg swyddogol
  • » Yn gwneud gwaith cartref

Golyga hyn hefyd bod rhieni yn:

  • arwyddo’r Dyddiadur Gwaith Cartref yn wythnosol
  • mynychu’r Cyfarfodydd Rhieni i drafod gwaith eu plant.