Saesneg Iaith a Llenyddiaeth
Anghenion Mynediad:
Disgwylir bod gennych radd B o leiaf yn Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg TGAU, yn ddelfrydol ar bapurau haenau uwch TGAU.
Beth yw Saesneg Iaith a Llenyddiaeth?
Dyluniwyd TAG UG a Safon Uwch TAG mewn iaith a llenyddiaeth Saesneg i hyrwyddo astudiaeth integredig o iaith a llenyddiaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i ddatblygu deallusrwydd aeddfed trwy archwilio ystod o destunau llenyddol ac anllenyddol.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Saesneg?
Ydych chi’n rhywun sy’n hoff iawn o lenyddiaeth Saesneg, ond efallai hefyd yn hoff o astudio iaith ac ysgrifennu creadigol? Os oes gennych ddiddordeb mewn iaith a llenyddiaeth, dyma’r cwrs i chi. Mae’r cymhwyster yma yn gyfuniad o elfennau Lefel A Llenyddiaeth a Lefel A Iaith. Mae yna gyfle i astudio llenyddiaeth traddodiadol a chyfoes wrth gwrs, ond hefyd i ysgrifennu’n greadigol. Yn ogystal â darnau ysgrifenedig byddwch yn trafod ac astudio iaith lafar.
Cynnwys y cwrs:
Uned 1 Dadansoddi cerddi ac ysgrifennu creadigol
Uned 2 Drama fodern e.e. A Streetcar Named Desire a thestun anllenyddol e.e. In Cold Blood, Truman Capote
Uned 3 Shakespeare e.e King Lear
Uned 4 Testunau heb eu hastudio o’r blaen (un llafar) a nofel e.e. The Colour Purple, Alice Walker
Uned 5 Astudio math o lenyddiaeth e.e. gothig, dystopia, rhyfel ac ysgrifennu creadigol
Gyrfaoedd posib:
Mae’r pwnc yn sicr yn cydfynd gyda’r mwyafrif o bynciau eraill ac yn gymhwyster teilwng ar gyfer astudio ystod eang o gyrsiau coleg. Rhydd agoriad i yrfau amrywiol megis Y Gyfraith a Newyddiaduriaeth.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.wjec.co.uk/qualifications/english/r-english-language-literature-gce-from-2015/