Skip to content ↓
Arweinydd Pwnc: Miss Mari Davies
Bwrdd Arholi: CBAC
Arholiadau: 100%
Gwaith cwrs: 0%

Anghenion Mynediad:

Dylech lwyddo i ennill o leiaf gradd B ar draws holl unedau’r cwrs Sbaeneg TGAU. Dylech fod wedi sefyll papurau Haen Uwch.

Beth yw Sbaeneg?

Mae’r cwrs Safon Uwch Sbaeneg wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd ag angerdd am ieithoedd ac â diddordeb mewn diwylliant hispanaidd. Bydd Safon Uwch Sbaeneg yn rhoi cyfle i chi ennill ystod eang o sgiliau ieithyddol gan gynnwys geirfa helaeth ac ystod o strwythurau gramadegol. Yn ystod y cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd myfyrwyr yn cael cyfle i archwilio materion a thueddiadau cymdeithasol yn ogystal â diwylliant gwleidyddol, deallusol ac artistig yn y byd Sbaeneg ei hiaith. Mae Sbaeneg yn bwnc cydnabyddus ac academaidd sydd yn agor y drysau i’r byd o’ch cwmpas.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn Sbaeneg?

Bydd y gwersi’n cynnwys cyfnodau dysgu themâu a thrafodaethau dosbarth er mwyn gwella gwaith ysgrifenedig a sgiliau llafar. Bydd gwaith gramadegol yn cael ei blethu drwy’r holl wersi er mwyn gwella cywirdeb a dealltwriaeth o strwythur yr iaith. Bydd disgyblion yn cael eu hannog i ddefnyddio amrediad eang o adnoddau gan gynnwys unedau a nodiadau’r ysgol, y we a gwefannau Quizlet a Memrise. Bydd gwaith llafar, ysgrifenedig a phrofion gramadeg yn cael eu cyflawni drwy gydol y ddwy flynedd. Yn ystod y cwrs byddwch hefyd yn ehangu eich ymwybyddiaeth o wledydd Sbaeneg ei hiaith drwy edrych yn fanylach ar ddiwylliant y gwledydd hyn gan gynnwys astudio llenyddiaeth a ffilmiau Sbaeneg a’u cyddestun.

Cynnwys y cwrs:

Thema 1: (UG) Byw fel person ifanc mewn cymdeithas Sbaeneg ei hiaith

Thema 2: (UG) Deall y byd Sbaeneg ei iaith

Thema 3: (Safon Uwch) Amrywiaeth a Gwahaniaeth

Thema 4: (Safon Uwch) Y Ddwy Sbaen: 1936 ymlaen  

Gyrfaoedd posib:

Mae ieithoedd yn agor drysau i ystod eang tu hwnt o yrfaoedd megis swyddi ym myd addysg, y gyfraith, y cyfryngau, recriwtio a llawer mwy. Mae prinder mawr o bobl ym Mhrydain sy’n medru siarad ieithoedd tramor, felly mae astudio iaith fodern ar gyfer Lefel A yn sgil perthnasol mewn pob math o feysydd, ac yn sgil sy’n cael ei ystyried yn ddeniadol iawn gan brifysgolion a chyflogwyr. Sbaeneg yw un o ieithoedd mwyaf rhyngwladol Ewrop sydd yn eich galluogi i gyfathrebu mewn 22 o wledydd led led y byd. Os ewch chi ymlaen i’r brifysgol, bydd cyfle i chi dreulio blwyddyn yn un o’r gwledydd hyn fel rhan o’ch gradd.

Sylwad Disgybl: “Penderfynais i gymryd Sbaeneg fel un o fy mhynciau Lefel A gan fy mod yn teimlo bod cael y gallu i siarad iaith arall, ac un o ieithoedd mwyaf pwerus y byd, yn agor cymaint o ddrysau ar gyfer y dyfodol.” Ceri Vaughan- Jones

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

 https://www.wjec.co.uk/qualifications/spanish/r-spanish-gce-asa-from-2016/