Teithio a Thwristiaeth
Anghenion Mynediad:
Angen 5 gradd C TGAU gan gynnwys C neu fwy yn Saesneg, Llên a Iaith, Chymraeg Llên a Iaith a Mathemateg.
Beth yw Teithio a Thwristiaeth?
Mae Diploma Cyfrannol Teithio a Thwristiaeth yn cynnig cymhwyster arbenigol sydd yn ffocysu ar agweddau arbennig o gyflogaeth o fewn y sector galwedigaethol. Twristiaeth yw un or diwydiannau mwyaf ym Mhrydain sydd werth £115 billiwn y flwyddyn. Mae’n cyflogi 2.6 milliwn o bobl. Mae’r Pearson BTEC Lefel 3 Tystysgrif mewn Teithio a Thwristiaeth yn help pobl ifanc i baratoi am y byd gwaith.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Teithio a Thwristiaeth?
Mae cynnwys y cwrs yn son am ddatblygiadau’r diwydiant a’r ffactorau sydd yn effeithio ar y diwydiant. Mae’r cwrs felly yn addas i disgyblion sydd a diddordeb i barhau ei dyfodol o fewn teithio a thwristaieth neu yn addas i ddisgyblion sydd a diddordeb mewn maes tebyg megis astudiaethau Busnes neu Daearyddiaeth.
Cynnwys y cwrs:
Uned 1: Cyflwyniad i Deithio a Thwristiaeth
Uned 2: Prydain Fel Cyrchfan
Uned 3: Busnes o fewn Teithio a Thwristiaeth
Bydd yr uchod yn cael ei gyflawni ym mlwyddyn 12 i ennill Tystysgrif BTEC sy’n gymersur ag un Safon Uwch Gyfrannol. Bydd opsiwn i barhau ar y cwrs ym Mlwyddyn 13 lle astudir 3 uned ddewisol i gyflawni’r Diploma Cyfrannol sy’n gymesur ag un Safon Uwch.
Gyrfaoedd posib:
Mae’r BTEC Cenedlaethol mewn Twristiaeth a Theithio yn cynnig cyfleodd i ddysgwyr gael mynediad i gyflogaeth yn y sector Twristiaeth a Theithio neu Hamdden, neu i ddilyn cwrs addysg uwch galwedigaethol fel y BTEC Cenedlaethol Uwch mewn Twristiaeth a Theithio.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://qualifications.pearson.com/en/qualifications/btec-nationals/travel-and-tourism-2010.html