CA5 - Blwyddyn 12-13
Arweinydd Pwnc: Miss Elin Evans
Bwrdd Arholi: CBAC
Troslowg o'r cwrs:
Mae dealltwriaeth o droseddeg yn berthnasol i lawer o swyddi yn y sector cyfiawnder troseddol, gwaith cymdeithasol a gwaith prawf a chymdeithaseg a seicoleg.
Mae Diploma CBAC Lefel 3 mewn Troseddeg yn gymhwyster sy'n cynnwys elfennau o seicoleg, y gyfraith a chymdeithaseg sy'n ategu astudiaethau yn y dyniaethau.
Mae'n gymhwyster Cyffredinol Cymhwysol. Mae hyn yn golygu ei fod wedi'i gynllunio'n bennaf i helpu dysgwyr sy'n symud ymlaen i'r brifysgol. Fe'i cynlluniwyd i gynnig profiadau cyffrous a diddorol sy'n canolbwyntio'r dysgu i ddysgwyr rhwng 16 a 19 oed ac oedolion sy'n dysgu drwy ddysgu cymhwysol, h.y. drwy feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth mewn cyd-destunau pwrpasol sy'n gysylltiedig â'r system cyfiawnder troseddol. Byddai'r cymhwyster yn helpu dysgwyr i symud ymlaen o unrhyw astudiaethau ar Lefel 2, yn arbennig TGAU mewn Cymdeithaseg, Y Gyfraith, Seicoleg, Dinasyddiaeth, Hanes a'r Dyniaethau.
Strwythyr y Cymhwyster:
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau POB uned.
Bydd yr uned orfodol gyntaf yn galluogi'r dysgwr i ddangos dealltwriaeth o wahanol fathau o droseddau, ffactorau sy'n dylanwadu ar ganfyddiadau o droseddau a pham na roddir gwybod am rai troseddau.
Bydd yr ail uned orfodol yn caniatáu i'r dysgwyr feithrin dealltwriaeth o pam mae pobl yn cyflawni troseddau, gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd ganddynt yn Uned 1.
Bydd y drydedd uned orfodol yn darparu dealltwriaeth o'r system cyfiawnder troseddol o'r adeg y caiff trosedd ei nodi i'r rheithfarn. Bydd dysgwyr yn meithrin y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i archwilio gwybodaeth i adolygu cyfiawnder rheithfarnau mewn achosion troseddol.
Yn yr uned orfodol olaf, bydd dysgwyr yn cymhwyso eu dealltwriaeth o'r ymwybyddiaeth o droseddoldeb, damcaniaethau troseddegol a'r broses o ddwyn y sawl a gyhuddwyd ger bron y llys er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd rheolaeth gymdeithasol wrth roi polisi cyfiawnder troseddol ar waith.