Skip to content ↓

Ymrwymiad yr Ysgol

Rydym am sicrhau hawl pob plentyn i dderbyn ei addysg mewn awyrgylch dymunol, ddiogel a threfnus.  

Ymrwymwn i ymateb i unrhyw orchmynion statudol sy’n berthnasol i ofynion addysgol eich plentyn mewn modd ystyrlon ac effeithlon.  

Byddwn yn cynllunio i sicrhau y safonau uchaf posibl o fewn yr ysgol ac yn monitro a hunan gloriannu er mwyn sicrhau llwyddiant cynyddol ein gweithgareddau.  

Mynegwn ein syniadau a’n hegwyddorion ym mholisïau amrywiol yr ysgol sydd ar gael i chwi eu darllen a hefyd ym mhrosbectws yr ysgol.  

Cewch gyfle fel rhieni i drafod unrhyw fater yn ymwneud â’r ysgol drwy fynychu cyfarfodydd rhieni a hefyd drwy gysylltu yn uniongyrchol â’r ysgol.
 

Ein Gweledigaeth ar gyfer ein Disgyblion

Rydym am ddisgyblion rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd yn falch o draddodiad ac etifeddiaeth eu hardal a’u gwlad. Ceisiwn ddinasyddion cytbwys a chyfrifol sy’n parchu hawliau unigolion eraill ac sydd yn gyfforddus a’u hunain. Bydd ganddynt barch at eu meddyliau, eu hysbryd, a’u cyrff ac fe fydd ganddynt orwelion eang a chwilfrydedd am wybodaeth newydd. Meddant ar y medrau angenrheidiol i fanteisio ar her a sialens y dyfodol yn y byd gwaith ac yn y gymdeithas a byddent am barhau i dyfu a datblygu fel dysgwyr gydol oes a dinasyddion y byd.

Ein Cenhadaeth i'r Rhiant

Tra’n gweithio i sicrhau ein cenhadaeth i’r disgybl fe ymrwymwn i’ch cynnwys chi fel partner yn ein hymdrechion ac i gyfathrebu â chi yn glir ac yn onest yn ôl yr angen. Drwy gydweithio ac ymddiried yn ein gilydd rydym am sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd i ben mynydd ei allu a’i dalentau.  Gwnawn hynny drwy gynnig cyfle, cynhaliaeth ac arweiniad o fewn cymdeithas bositif, eangfrydig, diogel a gwar.